Fydd yr Rhagfyr datganiad i’r Gronfa Cymorth Dewisol (sy’n edrych ar y cyfnod hyd at diwedd mis Medi) fydd yr ryddhau terfynol yn y fformat cyfredol. O 2024 ymlaen, bydd data ar Gronfa Cymorth Dewisol yn cael ei gyhoeddi’n chwarterol a bydd ffigurau’n cael eu gyflwyno’n fisol yn hytrach nag wythnosol. Bydd y datganiadau chwarterol yn cynnwys adroddiad HTML yn ogystal â thablau StatsCymru ac yn darparu dadansoddiadau yn ôl oedran ac awdurdod lleol.
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn cynnig dau fath o grant. Mae’r Taliad Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain neu mewn cartref y maent yn symud i mewn iddo. Mae’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad, neu deithio mewn achos o argyfwng.
Yn ystod y pandemig COVID-19, gellid hawlio taliadau EAP am resymau'n ymwneud â COVID-19, megis oedi cyn cael taliadau Credyd Cynhwysol neu hawliadau eraill yr Adran Gwaith a Phensiynau oherwydd y pandemig, ac i dalu am y gostyngiad o £20 mewn taliadau Credyd Cynhwysol a ddigwyddodd ym mis Hydref 2021. Gan fod ffactorau heblaw’r pandemig yn ysgogi'r taliadau hyn bellach, rhoddwyd y gorau yn y tablau hyn i gategoreiddio taliadau EAP fel taliadau "COVID-19" a thaliadau "Arferol" fel y gwneid mewn datganiadau blaenorol. O 1 Ebrill 2023, nid yw COVID-19 ar gael bellach i'w ddewis fel rheswm dros wneud cais am EAP.
O 1 Ebrill 2023 ymlaen bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael 3 taliad mewn cyfnod treigl o 12 mis. (Mae hyn yn cynnwys yr holl taliadau EAP a dderbyniwyd yn flaenorol o fewn y 12 mis diwethaf). Ers 2020, mae pobl a ddioddefodd effeithiau’r pandemig neu yn sgil colli’r codiad o £20 i’r Credyd Cynhwysol wedi gallu derbyn 5 taliad. Bydd y 3 taliad hwn yn uwch o ran gwerth gyda chynnydd chwyddiant o 11% ar bob dyfarniad o’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng. Bydd y bwlch o 28 diwrnod rhwng dyddiadau ymgeisio yn gostwng i 7 diwrnod i bob ymgeisydd. Bwriad y newidiadau hyn yw caniatáu defnydd olynol o’r gronfa dros gyfnod byr pan fo argyfwng.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data DAF yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth NEC Software Solutions UK.
Mae data DAF yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth NEC Software Solutions UK. Nid yw'r data'n mynd drwy unrhyw brosesau dilysu ffurfiol ac felly nid ydynt yn cael eu cyhoeddi fel Ystadegyn Gwladol.