Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Swyddogol Achrededig Rhifau unigryw dysgwyr yn ol oedran a rhyw
None
[Lleihau]EthnigrwyddTarddiad ethnig y dysgwr (yn ôl ei ddisgrifiad ei hun)[Hidlwyd]
-
Ethnigrwydd 1[Hidlo]
BlwyddynMae blynyddoedd academaidd yn rhedeg o 1 Awst yn y flwyddyn gychwynnol i 31 Gorffennaf yn y flwyddyn ganlynol.[Hidlwyd]
Measure1
Dyddiad CyfeirioCyflwynir y data naill ai fel ciplun yn wythnos Rhagfyr 1af yn ystod y flwyddyn academaidd neu fel cyfrifiad blwyddyn gyfan[Hidlo]
[Lleihau]Rhyw[Hidlo]
-
Rhyw 1
[Lleihau]Grwp oedranOed ar 31 Awst (diwedd y mis cyntaf) yn y flwyddyn academaidd[Hidlo]
-
-
Grwp oedran 1
[Lleihau]Blwyddyn academaidd lawnCyfrifiad o ddysgwyr/rhaglenni/gweithgareddau gydol y flwyddyn academaidd[Lleihau]Wythnos o 1 RhagfyrCiplun o ddysgwyr/rhaglenni/gweithgareddau a ymrestrodd yn ystod wythnos 1 Rhagfyr
[Lleihau]UnigolynMae cyfanswm yr holl bersonau yn cynnwys nifer fach o ddysgwyr nad ydynt yn nodi eu bod yn wrywaidd neu\'n fenywaidd.Cliciwch yma i ddidoliUnigolynMae cyfanswm yr holl bersonau yn cynnwys nifer fach o ddysgwyr nad ydynt yn nodi eu bod yn wrywaidd neu\'n fenywaidd.[Lleihau]UnigolynMae cyfanswm yr holl bersonau yn cynnwys nifer fach o ddysgwyr nad ydynt yn nodi eu bod yn wrywaidd neu\'n fenywaidd.Cliciwch yma i ddidoliUnigolynMae cyfanswm yr holl bersonau yn cynnwys nifer fach o ddysgwyr nad ydynt yn nodi eu bod yn wrywaidd neu\'n fenywaidd.
Cliciwch yma i ddidoliGwrywCliciwch yma i ddidoliBenywCliciwch yma i ddidoliAnhysbys / heb ei roiCliciwch yma i ddidoliGwrywCliciwch yma i ddidoliBenywCliciwch yma i ddidoliAnhysbys / heb ei roi
[Lleihau]Pob oedranYn cynnwys achosion lle na nodir yr oedran.415,010523,015145940,090287,840338,63090627,965
Pob oedranYn cynnwys achosion lle na nodir yr oedran.Iau nag 16 oed3,3753,170*6,560685450.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol1,135
1659,06551,52025111,20053,14546,2052599,890
1754,03547,38525101,81048,23542,1152090,700
1834,96027,470*62,64029,15521,845*51,170
1923,00016,970*40,06018,37012,060*30,500
20 - 2459,69061,850*121,73541,08037,935579,110
25 - 49139,625239,93030379,96077,205138,980*216,395
50 - 6433,81060,305*94,22015,82031,205*47,060
65 oed a hyn7,37514,310*21,7004,1357,775*11,910
Heb ei nodi***200**.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol85

Metadata

Teitl

Niferoedd Dysgwyr yn ôl Oedran, Ethnigrwydd a Rhyw

Diweddariad diwethaf

27 Chwefror 2024 27 Chwefror 2024

Diweddariad nesaf

Chwefror 2025

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg yn unig

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Dysgu Gydol Oes Cymru Cofnod; LLWR; Addysg Bellach; AB; Dysgu Cymunedol Awdurdodau Lleol; Dysgu Seiliedig Ar Waith; WBL; Prentisiaethau; Prentisiaeth; Ôl-16; P16

Ansawdd ystadegol

Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn i dablau gael eu cyhoeddi. Mae data LLWR sy'n sail i'r tabl hwn yn ddata terfynol at ddibenion heblaw dibenion cyllid.

Disgrifiad cyffredinol

1. Mae’r tabl hwn yn cynnwys data ar ddarpariaeth Addysg Bellach, Dysgu Cymunedol a Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL) yng Nghymru gan ddarparwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae data ar SABau a dysgu cymunedol wedi’i gynnwys o 2003/04 ond mae gwybodaeth am ddarpariaeth gan ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith eraill wedi’i chynnwys o 2004/05. Mae’r data’n deillio o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), sef yr unig ddull casglu data a ddefnyddir gan ddarparwyr hyfforddiant Addysg Bellach, Dysgu Cymunedol ac eraill
2. Mae’r tabl hwn yn cyflwyno gwybodaeth am weithgareddau dysgu dysgwyr.
3. Mae LLWR yn gronfa ddata fyw sy’n cael ei sbarduno gan ddigwyddiadau a’i chynnal yn barhaus. Mae data misol yn cael ei gofnodi at ddibenion cyllid ac ystadegol.
4. Mae rhai sefydliadau AB yn cynnwys darparwyr dysgu seiliedig ar waith atodol.
5. Mae Dysgu Cymunedol yn ddiffiniad eang sy’n gallu cwmpasu, er enghraifft, darpariaeth mewn canolfannau allgymorth SABau, ABE ac ESOL. Mae’r tabl hwn ond yn cwmpasu darpariaeth dysgu cymunedol Awdurdod Lleol.
6. Dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau ar draws blynyddoedd oherwydd gwahaniaethau mewn diffiniadau poblogaeth dros amser, a dylai cwestiynau gael eu cyfeirio at yr adran Ystadegau Addysg Ôl-16. Mae elfen WBL ffigurau 2003/04 yn cynnwys WBL mewn SABau ond yn hepgor WBL mewn darparwyr hyfforddiant eraill, tra bod blynyddoedd mwy diweddar yn cynnwys y ddau. Mae dysgwyr AB yng Ngholeg Merthyr Tudful wedi’u cynnwys hyd at 2005/06 ond wedi’u hepgor rhwng 2006/07 a 2011/12, yn dilyn uno’r coleg fel rhan o Brifysgol Morgannwg. O 2012/13 ymlaen, mae Coleg Merthyr Tudful wedi’i gynnwys yn y data unwaith eto. Mae ymrestriadau Cymraeg i Oedolion (ac eithrio yng Nghanolfan Coleg Gwent) wedi’u hepgor o 2007/08 ymlaen. Mae cynnwys darpariaeth Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach wedi newid dros amser, ac mae Sefydliadau Addysg Uwch breiniol wedi'i eithrio'n hanesyddol. Yn ogystal, mae rhaglenni newydd a ariennir gan CCAUC bellach yn cael eu casglu drwy HESA yn hytrach na LLWR.
7. Yn ogystal â’r newidiadau dros amser y cyfeiriwyd atynt yn nodyn 6, mae poblogaeth wedi’i haddasu wedi’i chyflwyno o 2006/07 ymlaen. Mae dwy elfen i hyn: (a) mae’n defnyddio’r cynharaf o ddau fath o ddyddiad gorffen sydd bellach ar gael ar LLWR i gipio ffigurau WBL; (b) mae’n diystyru gweithgareddau dysgu gyda bwlch mawr iawn rhwng y dyddiad gorffen disgwyliedig a’r dyddiad gorffen go iawn.


Cyflwyniad
8. Mae data’n cael ei gyflwyno ar sail blwyddyn academaidd lawn (Awst i Orffennaf) ac fel ciplun ar gyfer wythnos 1 Rhagfyr yn y flwyddyn academaidd a gyflwynir. Cyflwynir oedrannau ar 31 Awst bob blwyddyn, yn agos at ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae'r cyfanswm ar gyfer pob person yn cynnwys nifer fach o ddysgwyr nad ydynt yn arddel hunaniaeth dyn na menyw yn benodol.

9. Mae ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf, felly efallai y bydd yna wahaniaethau bach rhwng swm yr eitemau unigol a’r cyfanswm.


Lefel dimensiwn

Oedran:
Oedran ar 31 Awst (diwedd mis cyntaf) y flwyddyn academaidd
Dyddiad cyfeirio:
Cyflwynir data naill ai fel ciplun ar wythnos 1 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn academaidd neu fel cyfrifiad blwyddyn gyfan.
1 Rhagfyr: Ciplun o ddysgwyr/rhaglenni/gweithgareddau a ymrestrodd yn ystod wythnos 1 Rhagfyr
Blwyddyn gyfan: Cyfrifiad o ddysgwyr/rhaglenni/gweithgareddau gydol y flwyddyn academaidd

Modd:
Dysgu llawn amser, rhan-amser neu seiliedig ar waith. Gweler y nodiadau ar yr eitem.
Llawn amser: Mae rhaglenni dysgu a nodir fel rhai llawn amser yn cael eu diffinio fel rhai sy’n cynnwys o leiaf 450 o oriau cyswllt dan arweiniad y flwyddyn.
Rhan-amser: Mae rhaglenni dysgu a nodir fel rhai rhan-amser yn cael eu diffinio fel rhai sy’n cynnwys llai na 450 o oriau cyswllt dan arweiniad.
Dysgu seiliedig ar waith: Ni all darpariaeth dysgu seiliedig ar waith gael ei dosbarthu fel darpariaeth llawn neu ran-amser gan fod y rhan fwyaf o’r dysgu yn y gweithle, felly mae dull astudio ar wahân wedi’i ddarparu.

Darparwr darpariaeth (disgrifiad: Math o ddarparwr)
WBL mewn Darparwyr Hyfforddiant Eraill: Darpariaeth WBL a gyflwynir i LLWR gan ddarparwr WBL. Wedi’i hepgor o LLWR ar gyfer 2003/04, felly nid yw’n gymaradwy dros amser
AB mewn SABau: Darpariaeth Addysg Bellach mewn sefydliadau Addysg Bellach.
AU mewn SAUau: Darpariaeth Addysg Uwch mewn sefydliadau Addysg Bellach.
Dysgu Cymunedol mewn SABau: Darpariaeth dysgu cymunedol a ymrestrir trwy sefydliad AB ond a ddarperir gan Awdurdod Lleol (darpariaeth 'wedi’i chontractio').
Dysgu Cymunedol mewn Awdurdodau Lleol: Darpariaeth Dysgu Cymunedol a ymrestrir trwy Awdurdod Lleol (darpariaeth 'a gynhelir' neu 'wedi’i chontractio').
WBL mewn SABau: Darpariaeth WBL mewn sefydliadau Addysg Bellach.


Math o ddarpariaeth (disgrifiad: Math o ddarpariaeth)
Y math o ddarpariaeth dysgu (AB, AU, Dysgu Cymunedol neu WBL). Mae’r math o ddarpariaeth yn cael ei bennu ar lefel y rhaglen ddysgu. Noder nad adroddiad ariannu yw hwn a bod diffiniadau’n gallu bod yn wahanol i’r rhai a ddefnyddir at ddibenion ariannu.
Addysg Bellach: Darpariaeth a gyflwynir i LLWR gan ddarparwr AB ac eithrio: rhaglenni dysgu sy’n cael eu categoreiddio fel AB neu WBL; a dysgu a ddarperir gan Awdurdod Lleol trwy drefniant is-gontract gyda darparwr AB.
Dysgu Cymunedol: Darpariaeth a gyflwynir i LLWR gan Awdurdod Lleol yn uniongyrchol neu gan ddarparwr AB ond lle mae’r dysgu’n cael ei ddarparu gan Awdurdod Lleol trwy bartneriaeth, masnachfraint neu drefniant is-gontract.
Addysg Uwch: Yn cynnwys rhaglenni dysgu sy’n cael eu categoreiddio fel addysg uwch.
Dysgu seiliedig ar waith: Darpariaeth sy’n cael ei diffinio fel darpariaeth a gyflwynir i LLWR gan ddarparwr WBL; neu sy’n cynnwys rhaglen ddysgu WBL ddynodedig. Mae WBL mewn Darparwyr Hyfforddiant Eraill wedi’u hepgor o LLWR ar gyfer 2003/04, felly nid yw’n gymaradwy dros amser.

Lefelau Cymhwyster:
Mae hyn yn cyfeirio at lefel y cymhwyster uchaf a gyflawnir cyn dechrau ar y rhaglen ddysgu. Cyflwynir data ar ffurf cymwysterau cyfwerth â Lefel NVQ.

Anabledd:
Dangosir hyn ar ffurf anabl, ddim yn anabl neu anhysbys, yn seiliedig ar asesiad y myfyriwr ei hun. Ni ddarperir unrhyw ddadansoddiadau pellach o anabledd yma.

Ethnigrwydd:
Tarddiad ethnig y dysgwr (ei ddisgrifiad ei hun).

Y Math o Raglen:
Mae hyn yn nodi prif fath o ddysgu dysgwr. Os yw’r dysgwr yn cyflawni mwy nag un math o ddysgu mewn rhaglen (e.e. Curicwlwm 2000 + TGAU), defnyddir y prif raglen ddysgu. Os yw cymwysterau ar wahân yn cael eu cyflawni, bydd manylion y dysgwr yn cael eu cofnodi ddwywaith.

Lefel Credyd:
Lefel Credyd y gweithgaredd a ddisgrifir gan ddefnyddio disgrifiadau lefel Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC).

Iaith – cyfrwng y ddarpariaeth dysgu
Yn seiliedig ar gategoreiddio’r math o ddosbarth.

Math o gymhwyster:
Math o gymhwyster y gweithgaredd dysgu.

Pwnc:
Pwnc y gweithgaredd dysgu gan ddefnyddio grwpiau eang yn system ddosbarthu Learning Direct.


Casgliad data a dull cyfrifo

O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2022/23 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2023.
Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Mae data ar gyfer darpariaeth blwyddyn lawn a'r rhai sy'n dysgu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 1 Rhagfyr ar gael.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:

Gweinidogion a'r Gwasanaeth Ymchwil Aelodau yn y Cynulliad
Swyddogion yn Llywodraeth Cymru
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:

Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru

Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Nid oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i'r ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Enw

EDUC0018