Cwblhau a llwyddiant mewn gweithgareddau Dysgu Oedolion, yn ôl dyddiad cyfeirio a lefel
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Llwyddiant mewn gweithgareddau Dysgu Oedolion, yn ôl blwyddyn academaidd, grwp oedran, lefel, dyddiad cyfeirio a maes pwnc sectorDiweddariad diwethaf
14 Mawrth 2024Diweddariad nesaf
Mawrth 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn darparu nifer y llwyddiannau a'r cyfraddau llwyddo ar gyfer gweithgareddau Dysgu Oedolion yng Nghymru. Mae'r data yn cynnwys Dysgu Oedolion a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol.Nifer y gweithgareddau dysgu a gyflawnwyd sy’n cael ei gyfrif, nid nifer y dysgwyr. Yr enwadur ar gyfer y cyfraddau cwblhau yw nifer y gweithgareddau dysgu a gwblhawyd (gyda nifer bach o eithriadau, gan gynnwys trosglwyddiadau). Mae'r enwadur ar gyfer cyfraddau llwyddo yr un fath, ond yn eithrio gweithgareddau nad oes modd eu hasesu.
Casgliad data a dull cyfrifo
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2016/17 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2017.Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:Gweinidogion a swyddogion yn Llywodraeth Cymru;
Aelodau o'r Senedd ac ymchwilwyr yn y Senedd
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:
Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Nid yw unrhyw werthoedd sy'n llai na 5 wedi'u nodi, a rhoddwyd seren (*) yn eu lle. Nid yw'r cyfraddau wedi'u nodi os nad yw'r cyfrif cyfatebol wedi'i nodi, neu os yw'r enwadur ar gyfer y gyfradd yn llai na 23 o weithgareddau.Allweddeiriau
Dysgu Cymunedol Dysgu Gydol Oes Cymru Cofnod LLWR Dysgu Oedolion DO Ôl-16 P16Dolenni'r we
https://gov.wales/learner-outcome-measures-work-based-learning-and-adult-community-learning Mesurau deilliannau dysgwyr Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Oedolion - cyhoeddiad blynyddol yn amlinellu tueddiadau mewn deilliannau dysgwyr mewn rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Oedolion. Roedd fersiynau blaenorol o’r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am ddeilliannau dysgwyr Addysg Bellach. Ni fydd hyn yn parhau, gan fod yr ystadegau wedi’u disodli gan y mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (https://gov.wales/consistent-performance-measures-post-16-learning-achievement-and-value-added).Ansawdd ystadegol
Mae rhai o'r ffigurau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 wedi'u diwygio. Cafodd gweithgareddau dysgu oedolion a gyflwynwyd yn uniongyrchol gan Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych eu hepgor yn anghywir. Mae newidiadau wedi'u marcio â (r). Nid oedd y cyfraddau cwblhau a llwyddiant cyffredinol ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion wedi newid.Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.