1. Llwyddiant mewn gweithgareddau Dysgu Oedolion, yn ôl blwyddyn academaidd a rhyw
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn darparu nifer y llwyddiannau a'r cyfraddau llwyddo ar gyfer gweithgareddau Dysgu Oedolion yng Nghymru. Mae'r data yn cynnwys Dysgu Oedolion a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol.Nifer y gweithgareddau dysgu a gyflawnwyd sy’n cael ei gyfrif, nid nifer y dysgwyr. Yr enwadur ar gyfer y cyfraddau llwyddo yw nifer y gweithgareddau dysgu a gwblhawyd y gellir eu hasesu (gyda nifer bach o eithriadau, gan gynnwys trosglwyddiadau).
Casgliad data a dull cyfrifo
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2016/17 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2017.Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:Gweinidogion a swyddogion yn Llywodraeth Cymru;
Aelodau o'r Senedd ac ymchwilwyr yn y Senedd
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:
Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Nid yw unrhyw werthoedd sy'n llai na 5 wedi'u nodi, a rhoddwyd seren (*) yn eu lle. Nid yw'r cyfraddau wedi'u nodi os nad yw'r cyfrif cyfatebol wedi'i nodi, neu os yw'r enwadur ar gyfer y gyfradd yn llai na 23 o weithgareddau.Teitl
Llwyddiant mewn gweithgareddau Dysgu Oedolion, yn ôl blwyddyn academaidd, rhanbarth domisil, grwp oedran, rhyw ac ethnigrwyddDiweddariad diwethaf
14 March 2024Diweddariad nesaf
Mawrth 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruFfynhonnell 2
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Llywodraeth CymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae rhai o'r ffigurau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 wedi'u diwygio. Cafodd gweithgareddau dysgu oedolion a gyflwynwyd yn uniongyrchol gan Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych eu hepgor yn anghywir. Mae newidiadau wedi'u marcio â (r). Nid oedd y cyfraddau cwblhau a llwyddiant cyffredinol ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion wedi newid.Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.