
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Llwyddiant mewn prentisiaethau, yn ôl blwyddyn academaidd, maes pwnc sector a lefelDiweddariad diwethaf
12 Mawrth 2025Diweddariad nesaf
Mawrth 2026Sefydliad cyhoeddi
MedrFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
Statistics@medr.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Dysgu Cymunedol Dysgu Gydol Oes Cymru Cofnod LLWR Dysgu Seiliedig ar Waith DSW Ôl-16 P16Disgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn darparu nifer y llwyddiannau a'r cyfraddau llwyddo ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru. Mae'r data yn cynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol.Nifer y fframweithiau prentisiaeth llawn a gyflawnwyd sy’n cael ei gyfrif, nid nifer y dysgwyr. Yr enwadur ar gyfer y cyfraddau llwyddo yw nifer y rhaglenni a gwblhawyd (gyda nifer bach o eithriadau, gan gynnwys trosglwyddiadau).
Casgliad data a dull cyfrifo
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2023/24 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2024.Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Medr a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:Gweinidogion a swyddogion yn Llywodraeth Cymru;
Aelodau o'r Senedd ac ymchwilwyr yn y Senedd
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:
Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.