Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn mewn Sefydliadau Addysg Bellach yn ôl sefydliad
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn mewn Sefydliadau Addysg BellachDiweddariad diwethaf
Medi 2021Diweddariad nesaf
Iau 2022 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnodion Cyllid Sefydliadau Addysg BellachCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data ar staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn darparu ffynhonnell swyddogol ystadegau ar FTEs staff ôl-16 mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru. Defnyddir y data i fonitro ffigurau FTE staff ac i lywio datblygiad strategaeth. Gall y data gael ei ddadansoddi yn ôl blwyddyn academaidd, sefydliad a chategori gwariant.Mae'r data ar FTE staff yn cael ei gasglu fel rhan o'r Cofnod Cyllid. Mae'r Cofnod Cyllid yn gofnod ariannol a gyflenwir i Lywodraeth Cymru gan SABau ac sy'n cynnwys copi o'u cyfriflenni ariannol.
Nid oedd data ar gyfer Coleg Merthyr Tudful wedi'i gasglu rhwng 2006/07 a 2011/12 yn dilyn yr uno gyda Phrifysgol Morgannwg yn 2006. Mae data ar gyfer Coleg Merthyr Tudful hefyd wedi'i hepgor o flynyddoedd academaidd 2004/05 a 2005/06. Ers 2012/13, mae data ar gyfer Coleg Merthyr Tudful wedi'i gynnwys unwaith eto.
Nid yw ffigurau ar wahân ar gyfer Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Amaethyddol Cymru wedi'u cynnwys o 2009/10 ymlaen, gan fod y sefydliadau hyn wedi uno i ffurfio Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Glannau Dyfrdwy yn ystod y flwyddyn academaidd. Felly, mae'r ddau sefydliad hyn yn dangos cynnydd mewn niferoedd FTE staff rhwng 2008/09 a 2009/10. Gwelir effeithiau tebyg o 2010/11 ymlaen o ganlyniad i uno Coleg Llysfasi fel rhan o Goleg Glannau Dyfrdwy. Mae manylion llawn unrhyw achosion o uno mewn anodiadau yn ymyl enw'r darparwr.
I osgoi datgelu enwau unigolion, mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf, ac er bod ffigurau sero go iawn wedi'u dangos, mae unrhyw werthoedd o 1, 2, 3 neu 4 wedi'u rowndio i lawr gan ddefnyddio symbol '*'. Gall y strategaeth dalgrynnu hon arwain at anghysondeb rhwng symiau rhesi a'r cyfansymiau a roddir.
Casgliad data a dull cyfrifo
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan SFR:http://gov.wales/statistics-and-research/staff-further-education-institutions/
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2004/05 - 2019/20, blwyddyn academaiddDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan SFR:http://gov.wales/statistics-and-research/staff-further-education-institutions/
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae gwerthoedd wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5, gyda phob gwerth nad yw'n sero llai na 5 wedi'u diystyru a'u nodi gyda seren (*).Ansawdd ystadegol
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan SFR:http://gov.wales/statistics-and-research/staff-further-education-institutions/