Mae'r data ar staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn darparu ffynhonnell swyddogol ystadegau ar FTEs staff ôl-16 mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru. Defnyddir y data i fonitro ffigurau FTE staff ac i lywio datblygiad strategaeth. Gall y data gael ei ddadansoddi yn ôl blwyddyn academaidd, sefydliad a chategori gwariant.
Mae'r data ar FTE staff yn cael ei gasglu fel rhan o'r Cofnod Cyllid. Mae'r Cofnod Cyllid yn gofnod ariannol a gyflenwir i Lywodraeth Cymru gan SABau ac sy'n cynnwys copi o'u cyfriflenni ariannol.
Nid oedd data ar gyfer Coleg Merthyr Tudful wedi'i gasglu rhwng 2006/07 a 2011/12 yn dilyn yr uno gyda Phrifysgol Morgannwg yn 2006. Mae data ar gyfer Coleg Merthyr Tudful hefyd wedi'i hepgor o flynyddoedd academaidd 2004/05 a 2005/06. Ers 2012/13, mae data ar gyfer Coleg Merthyr Tudful wedi'i gynnwys unwaith eto.
Nid yw ffigurau ar wahân ar gyfer Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Amaethyddol Cymru wedi'u cynnwys o 2009/10 ymlaen, gan fod y sefydliadau hyn wedi uno i ffurfio Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Glannau Dyfrdwy yn ystod y flwyddyn academaidd. Felly, mae'r ddau sefydliad hyn yn dangos cynnydd mewn niferoedd FTE staff rhwng 2008/09 a 2009/10. Gwelir effeithiau tebyg o 2010/11 ymlaen o ganlyniad i uno Coleg Llysfasi fel rhan o Goleg Glannau Dyfrdwy. Mae manylion llawn unrhyw achosion o uno mewn anodiadau yn ymyl enw'r darparwr.
I osgoi datgelu enwau unigolion, mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf, ac er bod ffigurau sero go iawn wedi'u dangos, mae unrhyw werthoedd o 1, 2, 3 neu 4 wedi'u rowndio i lawr gan ddefnyddio symbol '*'. Gall y strategaeth dalgrynnu hon arwain at anghysondeb rhwng symiau rhesi a'r cyfansymiau a roddir.