Cyrchfan myfyrwyr cymwysedig o SAUau yng Nghymru yn ôl y pwnc a astudiwyd, lefel astudio, rhyw a gweithgarwch cyfredol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Lleoliad Myfyrwyr Cymwysedig o Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn ôl pwnc sy’n cael ei astudio, rhyw a gweithgarwch bresennolDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2018Diweddariad nesaf
Yn sgil adolygiad mawr, mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn rhagweld mai hon fydd y flwyddyn olaf y byddant cyhoeddi allbynnau Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch. Mae arolwg newydd ar Hynt Graddedigion wrthi'n cael ei roi ar waith, a bydd yn cael ei gynnal ymhlith graddedigion oddeutu 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Disgwylir y bydd y set gyntaf o ddata Hynt Graddedigion yn cael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2020Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/destination-leavers-higher-education-uk/?lang=cyDisgrifiad cyffredinol
Yn dilyn adolygiad o arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) ac ymgynghoriad gydag adrannau’r llywodraeth, y sector AU a’r defnyddwyr y data, cafodd yr arolwg ei ail-ddylunio ar gyfer 2011/12 i gasglu gwybodaeth fanylach gan y ymadawyr yn arbennig ynghylch eu gweithgarwch ar ddyddiad yr arolwg. Mae’r ymadawyr bellach yn adrodd am yr holl weithgarwch y maent yn ei wneud ar ddyddiad y cyfrifiad ac yna’n dweud p’un sydd bwysicaf iddynt. O’r atebion hyn mae categorïau lleoliad yn deillio, gan ystyried y weithgaredd bwysicaf, ac mewn rhai achosion, gweithgareddau eraill y mae’r ymadawr yn rhan ohonynt.Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt: post16ed.stats@gov.wales
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae’r tabl hwn yn rhoi gwybodaeth am leoliad myfyrwyr sy’n hanu o’r DU chwe mis ar ôl iddynt ennill cymwysterau addysg uwch o Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae’r ffordd y caiff y ffigurau eu cyflwyno yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth talgrynnu Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Bwriad y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys talgrynnu pob rhif i’r 5 agosaf. Dyma grynodeb o’r strategaeth hon:• 0, 1, 2 yn cael eu talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli gan '*'.
• Pob rhif arall yn cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf