Yn dilyn adolygiad o arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) ac ymgynghoriad gydag adrannau’r llywodraeth, y sector AU a’r defnyddwyr y data, cafodd yr arolwg ei ail-ddylunio ar gyfer 2011/12 i gasglu gwybodaeth fanylach gan y ymadawyr yn arbennig ynghylch eu gweithgarwch ar ddyddiad yr arolwg. Mae’r ymadawyr bellach yn adrodd am yr holl weithgarwch y maent yn ei wneud ar ddyddiad y cyfrifiad ac yna’n dweud p’un sydd bwysicaf iddynt. O’r atebion hyn mae categorïau lleoliad yn deillio, gan ystyried y weithgaredd bwysicaf, ac mewn rhai achosion, gweithgareddau eraill y mae’r ymadawr yn rhan ohonynt.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyswllt: post16ed.stats@gov.wales
Mae’r tabl hwn yn rhoi gwybodaeth am leoliad myfyrwyr sy’n hanu o’r DU chwe mis ar ôl iddynt ennill cymwysterau addysg uwch o Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae’r ffordd y caiff y ffigurau eu cyflwyno yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth talgrynnu Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Bwriad y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys talgrynnu pob rhif i’r 5 agosaf. Dyma grynodeb o’r strategaeth hon: • 0, 1, 2 yn cael eu talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli gan '*'. • Pob rhif arall yn cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf
Teitl
Lleoliad myfyriwr cymwysedig sy’n hanu o Gymru yn ôl statws cyflogaeth a lleoliad astudio
Diweddariad diwethaf
Gorffennaf 2017
Gorffennaf 2017
Diweddariad nesaf
Yn sgil adolygiad mawr, mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn rhagweld mai hon fydd y flwyddyn olaf y byddant cyhoeddi allbynnau Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch. Mae arolwg newydd ar Hynt Graddedigion wrthi'n cael ei roi ar waith, a bydd yn cael ei gynnal ymhlith graddedigion oddeutu 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Disgwylir y bydd y set gyntaf o ddata Hynt Graddedigion yn cael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2020
Cafodd cwmpas arolwg 2011/12 ei ehangu i gynnwys cymwysterau AU ychwanegol ac mae bellach yn cynnwys ymadawyr nad ydynt yn hanu o’r UE lle roedd wedi’i gyfyngu cyn hynny i ymadawyr o’r DU a’r Undeb Ewropeaidd yn unig. Yn 2011/12 roedd y boblogaeth darged yn 703,615 o ymadawyr ac roedd 133,175 ohonynt yn ymadawyr nad oeddent yn hanu o’r UE. Cynhaliwyd arolwg peilot o’r ymadawyr hyn yn 2011/12 gyda chyfarwyddyd clir na ddylai’r wybodaeth a gesglir gael ei chyhoeddi tan iddi gael ei hadolygu’n ofalus. Mae’r ymadawyr hyn felly’n cael eu heithrio o SFR Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ac o’r bwletin ystadegol hwn. Yn ogystal â hynny, enillodd 2,960 o ymadawyr gymwysterau ymchwil ôl-raddedig o statws segur. Ystyrir bod canlyniadau lleoliad yr ymadawyr hyn yn wahanol iawn eu natur i ganlyniadau ymadawyr ymchwil ôl-raddedig eraill a gafodd eu cynnwys yn yr arolwg, felly mae’r ymadawyr hyn wedi cael eu heithrio