

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
First years from Wales on ITE courses in the UK, as at 1 DecemberDiweddariad diwethaf
25ain Mai 2022Diweddariad nesaf
Wedi ei archifo – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyachSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Higher EducationDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cynnig gwybodaeth am gofrestriadau ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC), a ddarperir drwy sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.I addysgu fel athro cymwysedig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid i fyfyrwyr fodloni safonau SAC. Gall myfyrwyr wneud hynny drwy naill ai gwneud cwrs gradd gyntaf sy'n cyfuno gradd - fel arfer BEd, BA neu BSc - â SAC, neu drwy gwblhau cwrs TAR sy'n arwain at SAC. Mae modd dilyn llwybrau eraill sy'n seiliedig ar gyflogaeth er mwyn ennill SAC, ond nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn y bwletin hwn.
Dylid cymryd gofal wrth gymharu data ar yr holl fyfyrwyr dros gyfnod o amser gan fod hyd cyrsiau'n gallu amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd gyntaf a oedd gynt yn bedair blynedd o hyd, bellach yn gyrsiau tair blynedd o hyd.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyfrif poblogaeth Rhagfyr HESA yw’r cyfrif o’r holl elfennau gweithredol ar gyfer myfyrwyr ar 1 Rhagfyr yn ystod y cyfnod adrodd. Nid yw myfyrwyr sy’n gadael cyn y dyddiad hwn, neu sy’n cofrestru ar ôl y dyddiad hwn, yn cael eu cynnwys yng nghyfrif y boblogaeth ar gyfer mis Rhagfyr. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n dod i mewn ar ymweliad a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio’u rhaglen astudio yn gyfan gwbl y tu allan i’r Deyrnas Unedig hefyd wedi’u heithrio o’r boblogaeth hon.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth:• Mae cyfrifiadau o bobl yn cael eu talgrynnu i’r lluosrif o 5 agosaf.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Cyn cyhoeddi data 2021/22, cafodd myfyrwyr ar gyrsiau 'Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon y Blynyddoedd Cynnar' eu cynnwys yn y data. Nid yw'r myfyrwyr hyn bellach yn cael eu trin fel myfyrwyr ar gyrsiau sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC), ac felly maent yn cael eu tynnu o’r data. Adolygwyd ffigurau 2020/21 i adlewyrchu'r newid hwn. Mae'n ymddangos bod effaith y newid hwn yn fach iawn.Cyn cyhoeddi data 2021/22, roedd myfyrwyr ar gyrsiau 'Diploma Ôl-raddedig mewn Addysg' yn cael eu trin yn anghywir fel myfyrwyr TAR. Arweiniodd hynny at orgofnodi myfyrwyr ar gyrsiau TAR. Mae'r myfyrwyr hyn bellach yn cael eu trin fel myfyrwyr ar gyrsiau gradd 'Eraill' sy’n arwain at SAC. Diwygiwyd data 2020/21 i adlewyrchu'r newid hwn. Mae'n ymddangos bod effaith y newid hwn yn fach iawn.