Myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd yng Nghymru yn ôl pwnc a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau AGA yng Nghymru yn ôl pwncDiweddariad diwethaf
25ain Mai 2023Diweddariad nesaf
Mai 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Cymru a LloegrCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cynnig gwybodaeth am y pynciau a gaiff eu hastudio gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon, sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC), a ddarperir drwy sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.I addysgu fel athro cymwysedig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid i fyfyrwyr fodloni safonau SAC. Gall myfyrwyr wneud hynny drwy naill ai gwneud cwrs gradd gyntaf sy'n cyfuno gradd - fel arfer BEd, BA neu BSc - â SAC, neu drwy gwblhau cwrs TAR sy'n arwain at SAC. Mae modd dilyn llwybrau eraill sy'n seiliedig ar gyflogaeth er mwyn ennill SAC, ond nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn y bwletin hwn.
Mae'r ffigurau'n cynrychioli'r nifer sydd wedi cofrestru ar gyfer pob blwyddyn, ac maent wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. O 2007/08 ymlaen, ni fydd y boblogaeth gofrestru'n cynnwys y myfyrwyr hynny sydd ar flwyddyn sabothol neu'n ysgrifennu eu traethodau.
Dylid cymryd gofal wrth gymharu data ar yr holl fyfyrwyr dros gyfnod o amser gan fod hyd cyrsiau'n gallu amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd gyntaf a oedd gynt yn bedair blynedd o hyd, bellach yn gyrsiau tair blynedd o hyd.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt: addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymru
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth gofrestru safonol Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn cyfrif pawb a gofrestrodd o fewn y flwyddyn adrodd 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Ni chaiff myfyrwyr sy’n gadael o fewn pythefnos i’w dyddiad dechrau, neu o fewn blwyddyn i’w dyddiad dechrau, ac sydd ar gwrs sy’n para mwy na phythefnos, eu cynnwys yn y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen gyfan y tu allan i’r DU hefyd yn cael eu heithrio o’r niferoedd hyn.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth:• Mae cyfrifiadau o bobl yn cael eu talgrynnu i’r lluosrif o 5 agosaf.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol Agored yn cofnodi pob myfyriwr ar gyrsiau AGA yng nghanolfan genedlaethol Cymru'r Brifysgol Agored fel myfyrwyr sy’n hyfforddi i addysgu yn Gymraeg. Arweiniodd hyn at orgofnodi nifer y myfyrwyr a oedd yn hyfforddi i addysgu'n ddwyieithog yn 2020/21. Mae'r ffigurau hyn wedi cael eu diwygio ers hynny yn dilyn gwaith gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a'r Brifysgol Agored. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn cael gwybodaeth am fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu'n ddwyieithog yn uniongyrchol gan y Brifysgol Agored, er mwyn darparu ffigurau diwygiedig bob blwyddyn.Ansawdd ystadegol
Dylid bod yn ofalus wrth gymharu data ar gyfer pob myfyriwr dros amser oherwydd gall hyd cyrsiau amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd cyntaf a arferai fod yn 4 blynedd bellach yn 3 blynedd o hyd.Mae’r data gwaelodol am bynciau’r cwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) wedi newid ers 2019/20 yn sgil newid o godau pynciau JACS i godau pynciau HECOS. Mae mwy o fanylion am godau pynciau HECOS ar gael ar we-dudalen HESA: https://www.hesa.ac.uk/support/documentation/hecos