

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Students on ITE courses in Wales, as at 1 DecemberDiweddariad diwethaf
25ain Mai 2023Diweddariad nesaf
Wedi ei archifo – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyachSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r tabl hwn yn rhoi gwybodaeth am fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio ar 1 Rhagfyr gyrsiau Hyfforddiant Athrawon Cychwynnol yn arwain at Statws Athro Cymwysedig sy’n cael eu darparu drwy sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig.Mae’r data sydd wedi’u cynnwys yma wedi’u codi o Gofnod Myfyrwyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ac yn cwmpasu myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar 1 Rhagfyr. O 2007/08 ymlaen nid oedd y boblogaeth ym mis Rhagfyr yn cynnwys y myfyrwyr hynny oedd ar gyfnod sabothol neu’n cwblhau gwaith ysgrifenedig.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyfrif poblogaeth Rhagfyr HESA yw’r cyfrif o’r holl elfennau gweithredol ar gyfer myfyrwyr ar 1 Rhagfyr yn ystod y cyfnod adrodd. Nid yw myfyrwyr sy’n gadael cyn y dyddiad hwn, neu sy’n cofrestru ar ôl y dyddiad hwn, yn cael eu cynnwys yng nghyfrif y boblogaeth ar gyfer mis Rhagfyr. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n dod i mewn ar ymweliad a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio’u rhaglen astudio yn gyfan gwbl y tu allan i’r Deyrnas Unedig hefyd wedi’u heithrio o’r boblogaeth hon.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth:• Mae'r niferoedd sy'n llai na 3 wedi'u talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli fel '.'
• Caiff pob ffigur arall eu talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5