
None
|
Metadata
Teitl
Staff Addysg Uwch yng Nghymru yn ôl nodweddion personolDiweddariad diwethaf
29 Ionawr 2025Diweddariad nesaf
Ionawr 2026 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
MedrFfynhonnell 1
Cofnod Staff Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
HEstats@medr.cymruLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Diweddariad diwethaf: 29 Ionawr 2025Diweddariad nesaf: Ionawr 2026 (Dros dro)
Ffynhonnell: Cofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) .
Mae’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data am fyfyrwyr, staff ac adnoddau sefydliadau addysg uwch yn y DU. Mae rhagor o wybodaeth am HESA a’i chasgliadau data, gan gynnwys rhai tablau ar-lein, ar gael ar ei gwefan: www.hesa.ac.uk
Casgliad data a dull cyfrifo
Seilir y ffigurau ar Gofnod Staff HESA. Mae angen data ar gyfer yr holl staff academaidd ac ar gyfer staff nad ydynt yn academaidd pan nad yw'r contract yn annodweddiadol. Hefyd nid oes angen dychwelyd data ar gyfer staff asiantaethau, staff hunan-gyflogedig, contractau anrhydeddus pan nad ystyrir bod y contract yn gontract cyflogaeth ac nid yw'r staff wedi'u cyflogi gan Sefydliad Addysg Uwch ond gan gwmni sy'n rhan o gyfrifon Sefydliad Addysg Uwch.Staff annodweddiadol yw’r aelodau hynny o staff y mae eu contractau’n cynnwys trefniadau gweithio nad ydynt yn barhaol, yn cynnwys perthnasoedd cyflogaeth cymhleth a/neu’n cynnwys gwaith i ffwrdd o oruchwyliaeth y darparwr gwaith arferol.
Cyfrifir niferoedd staff cyfwerth â pherson llawn nad ydynt yn annodweddiadol ar sail gweithgareddau contractau a oedd yn weithredol ar 1 Rhagfyr y cyfnod adrodd. Cyfrifir niferoedd staff cyfwerth â pherson llawn annodweddiadol ar sail yr unigolion sydd â chontractau annodweddiadol yn unig a oedd yn weithredol yn ystod y cyfnod adrodd.
Mae ‘cyfwerth ag amser llawn’ yn dynodi’r gyfran o flwyddyn amser llawn a gymerir yn ystod y cyfnod adrodd rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf. Cyfrifir ‘cyfwerth ag amser llawn’, felly, gan ddefnyddio nifer y staff a oedd yn weithredol yn ystod y cyfnod adrodd, nid dim ond ar ddyddiad penodol.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y diffiniadau a ddefnyddir i’w gweld yn https://www.hesa.ac.uk/support/definitions/staff
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae nifer y staff HESA ar gontract yn dynodi’r contractau hynny a oedd yn weithredol ar 1 Rhagfyr o fewn y cyfnod adrodd. Defnyddir hyn wrth ddadansoddi nodweddion contractau staff nad oeddent yn annodweddiadol yn ôl gwerthoedd cyfwerth â pherson llawn.Mae nifer y staff HESA annodweddiadol yn dynodi’r unigolion hynny a oedd â chontractau annodweddiadol yn unig yn ystod y cyfnod adrodd (31 Gorffennaf i 1 Awst). Defnyddir hyn wrth ddadansoddi nodweddion personol staff annodweddiadol yn ôl gwerthoedd cyfwerth â pherson llawn.
Mae nifer y staff HESA ar gontract sesiynol yn dynodi’r contractau hynny a oedd yn weithredol yn ystod y cyfnod adrodd (31 Gorffennaf i 1 Awst). Defnyddir hyn wrth ddadansoddi gwerthoedd cyfwerth ag amser llawn mewn perthynas â staff annodweddiadol ac nad oeddent yn annodweddiadol.