
None
|
Metadata
Disgrifiad cyffredinol
Diweddariad diwethaf: 8 Chwefror 2022Diweddariad nesaf: Ionawr 2023
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)
Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data ar fyfyrwyr, staff ac adnoddau Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am HESA a'u casgliadau data, gan gynnwys rhai tablau ar-lein, drwy fynd i'w gwefan, sef www.hesa.ac.uk
Y strategaeth talgrynnu
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth:
• Mae'r niferoedd sy'n llai na 3 wedi'u talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli fel '.'
• caiff pob ffigur arall eu talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5
Mae'r cyfansymiau hefyd wedi'u talgrynnu yn ôl y fethodoleg hon; ac fel canlyniad efallai na fydd swm y rhifau ym mhob rhes neu golofn gyfwerth yn union â'r cyfanswm a ddangosir.
Casgliad data a dull cyfrifo
Seilir y ffigurau ar Gofnod HESA o Staff. Mae angen data ar gyfer yr holl staff academaidd ac ar gyfer staff nad ydynt yn academaidd pan nad yw'r contract yn annodweddiadol. Hefyd nid oes angen dychwelyd data ar gyfer staff asiantaethau, staff hunan-gyflogedig, contractau anrhydeddus pan nad ystyrir bod y contract yn gontract cyflogaeth ac nid yw'r staff wedi'u cyflogi gan Sefydliad Addysg Uwch ond gan gwmni sy'n rhan o gyfrifon Sefydliad Addysg Uwch.Nid yw staff â chontract cyfwerth i amser llawn (FTE) o sero wedi eu cyfrif yn y boblogaeth hon.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth staff contract HESA yn cynnwys contractau a oedd ar waith ar 1 Rhagfyr o fewn y cyfnod adrodd.Ansawdd ystadegol
Seilir y ffigurau ar Gofnod HESA o Staff. Mae angen data ar gyfer yr holl staff academaidd ac ar gyfer staff nad ydynt yn academaidd pan nad yw'r contract yn annodweddiadol. Hefyd nid oes angen dychwelyd data ar gyfer staff asiantaethau, staff hunan-gyflogedig, contractau anrhydeddus pan nad ystyrir bod y contract yn gontract cyflogaeth ac nid yw'r staff wedi'u cyflogi gan Sefydliad Addysg Uwch ond gan gwmni sy'n rhan o gyfrifon Sefydliad Addysg Uwch.Gellir cael mwy o wybodaeth am y cofnod o staff ar gyfer 2015/16 yn niffiniadau HESA ar gyfer Staff mewn Addysg Uwch.
https://www.hesa.ac.uk/data-and-analysis/publications/staff-2015-16/definitions
Rhwng 2014/15 a 2015/16 roedd Prifysgol De Cymru wedi adrodd am ostyngiad sylweddol yn nifer y staff. Nodwyd mai'r rheswm am hynny oedd cyfuniad o newidiadau arferol i gontractau a throsiant gweithwyr, ailstrwythuro sefydliadol cyfyng, cyfuniad o systemau Adnoddau Dynol a chyflogres, ac ymarfer glanhau data.