Staff academaidd (ac eithrio rhai annodweddiadol) sy’n addysgu yn y Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru mewn cyfrifiadau Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE) yn ôl canolfan gost a gallu i addysgu yn y Gymraeg
None
|
Metadata
Teitl
Staff mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru mewn cyfrifiadau Cyfwerth â PhersonDiweddariad diwethaf
21 Medi 2023Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2024 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Staff Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Diweddariad diwethaf: 21 Medi 2023Diweddariad nesaf: Gorffennaf 2024 (Dros dro)
Ffynhonnell: Cofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) .
Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data ar fyfyrwyr, staff ac adnoddau Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am HESA a'u casgliadau data, gan gynnwys rhai tablau ar-lein, drwy fynd i'w gwefan, sef www.hesa.ac.uk
Casgliad data a dull cyfrifo
Seilir y ffigurau ar Gofnod HESA o Staff. Mae angen data ar gyfer yr holl staff academaidd ac ar gyfer staff nad ydynt yn academaidd pan nad yw'r contract yn annodweddiadol. Hefyd nid oes angen dychwelyd data ar gyfer staff asiantaethau, staff hunan-gyflogedig, contractau anrhydeddus pan nad ystyrir bod y contract yn gontract cyflogaeth ac nid yw'r staff wedi'u cyflogi gan Sefydliad Addysg Uwch ond gan gwmni sy'n rhan o gyfrifon Sefydliad Addysg Uwch.Mae staff annodweddiadol wedi’u heithrio o’r data. Staff annodweddiadol yw’r aelodau hynny o staff y mae eu contractau yn cynnwys trefniadau gweithio nad ydynt yn barhaol, perthynas waith gymhleth a/neu waith na chaiff ei oruchwylio gan y darparwr gwaith arferol.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth staff contract HESA yn cynnwys contractau a oedd ar waith ar 1 Rhagfyr o fewn y cyfnod adrodd.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth:• Mae'r niferoedd sy'n llai na 2.5 wedi'u talgrynnu i 0
• caiff pob ffigur arall eu talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5
Mae'r cyfansymiau hefyd wedi'u talgrynnu yn ôl y fethodoleg hon; ac fel canlyniad efallai na fydd swm y rhifau ym mhob rhes neu golofn gyfwerth yn union â'r cyfanswm a ddangosir.
Ansawdd ystadegol
Seilir y ffigurau ar Gofnod HESA o Staff. Mae angen data ar gyfer yr holl staff academaidd ac ar gyfer staff nad ydynt yn academaidd pan nad yw'r contract yn annodweddiadol. Hefyd nid oes angen dychwelyd data ar gyfer staff asiantaethau, staff hunan-gyflogedig, contractau anrhydeddus pan nad ystyrir bod y contract yn gontract cyflogaeth ac nid yw'r staff wedi'u cyflogi gan Sefydliad Addysg Uwch ond gan gwmni sy'n rhan o gyfrifon Sefydliad Addysg Uwch.Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cofnod staff yn yr adran diffiniadau ar gyfer y cofnod staff ar wefan HESA: https://www.hesa.ac.uk/support/definitions/staff
Rhwng 2014/15 a 2015/16 roedd Prifysgol De Cymru wedi adrodd am ostyngiad sylweddol yn nifer y staff. Nodwyd mai'r rheswm am hynny oedd cyfuniad o newidiadau arferol i gontractau a throsiant gweithwyr, ailstrwythuro sefydliadol cyfyng, cyfuniad o systemau Adnoddau Dynol a chyflogres, ac ymarfer glanhau data.
Mae Caerdydd ac Abertawe wedi cyflwyno’u nifer diwygiedig o’u staff sy’n addysgu yn Gymraeg yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru (ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017/18). Nid yw’r diwygiadau cyfatebol wedi cael eu cyflwyno i HESA hyd yn hyn, er mai nhw yw ffynhonnell y data ar gyfer y tabl hwn. Nodwch felly na fod y niferoedd a ddangosir yma ar gyfer nifer y staff sy’n addysgu yn y Gymraeg ar gyfer Caerdydd ac Abertawe yn ddibynadwy.
Dolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-higher-education-institutions/?lang=cyhttp://gov.wales/statistics-and-research/initial-teacher-training/?lang=cy