Ffynhonnell: Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Cyswllt: HigherEducationAndStudentFinance.Stats@gov.wales
Mae'r data hwn yn darparu gwybodaeth am nifer y Grantiau Llywodraeth Cymru (WGLGs) a ddyfernir i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru mewn addysg bellach. Roedd y rhain yn arfer cael eu galw'n Grantiau Dysgu'r Cynulliad (ALGs) cyn 2014/15
Cyn blwyddyn academaidd 2006/07, roedd data ar geisiadau am ALG gan fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru mewn AB yn cael ei gasglu gan Awdurdodau Lleol. Ers 2006/07, mae'r holl ddata ar fyfyrwyr mewn sefydliadau Addysg Bellach wedi'i gael gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC). Ar gyfer 2002/03 a 2003/04, ar gyfer rhai AALlau, efallai bod data o ffurflen mis Mawrth wedi'i ddefnyddio; rhoddir nodiadau yn yr achosion hyn.
Blynyddol
Mae ffigurau 2023/24 yn seiliedig ar geisiadau hyd at 31 Gorffennaf 2024.
Cafodd ALGs eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru o flwyddyn academaidd 2002/03 ymlaen i ddarparu arian ychwanegol i fyfyrwyr a fyddai'n cael anhawster ariannol fel arall wrth ddilyn cyrsiau iraddedig addysg uwch neu ôl-orforol. Roedd y grant ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn a rhan-amser a ddechreuodd eu cyrsiau yn 2002/03 a oedd yn hanu o Gymru ac yn astudio mewn coleg a ariennir yn gyhoeddus yn y DU. Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, roedd rhaid i'w cwrs gynnig o leiaf 30 credyd i fod yn gymwys.
Roedd cynllun 2002/03 ond yn cynnwys myfyrwyr sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Bellach neu Sefydliadau Addysg Uwch. Yn 2003/04, cafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys myfyrwyr ym mhob canolfan ddysgu (e.e. ysgolion) sy'n darparu cyrsiau a hwylusir gan ELWa neu AALl.
Yn 2006/07, cafodd y cyfrifoldeb dros weinyddu ceisiadau am ALGs ar gyfer myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach ei drosglwyddo o ALlau i'r SLC.
Mae'r rhan fwyaf o'r data wedi'i dalgrynnu i'r 5 agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi neu'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir.