

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Ffynhonnell: Cwmni Benthyciadau MyfyrwyrCyswllt: HigherEducationAndStudentFinance.Stats@gov.wales
Mae'r data hwn yn darparu gwybodaeth am nifer y Grantiau Llywodraeth Cymru (WGLGs) a ddyfernir i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru mewn addysg bellach. Roedd y rhain yn arfer cael eu galw'n Grantiau Dysgu'r Cynulliad (ALGs) cyn 2014/15
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data wedi'i echdynnu o gronfa ddata swyddogol y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae ffigurau 2022/23 yn seiliedig ar geisiadau a ddaeth i law erbyn 31 Gorffennaf 2023.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae’r data ar gyfer 2013/14 a 2014/15 wedi’u diwygio er mwyn eithrio rhaglenni sydd wedi’u tynnu oddi yno. Doedd hyn ddim yn bosibl o’r blaen. Yn ogystal, mae cyfansymiau'n cynnwys rhai sefydliadau yn Lloegr, felly efallai na fydd symiau rhesi neu golofnau yn ychwanegu at y cyfanswm a roddir.Cyn blwyddyn academaidd 2006/07, roedd data ar geisiadau am ALG gan fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru mewn AB yn cael ei gasglu gan Awdurdodau Lleol. Ers 2006/07, mae'r holl ddata ar fyfyrwyr mewn sefydliadau Addysg Bellach wedi'i gael gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC). Ar gyfer 2002/03 a 2003/04, ar gyfer rhai AALlau, efallai bod data o ffurflen mis Mawrth wedi'i ddefnyddio; rhoddir nodiadau yn yr achosion hyn.
Cafodd ALGs eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru o flwyddyn academaidd 2002/03 ymlaen i ddarparu arian ychwanegol i fyfyrwyr a fyddai'n cael anhawster ariannol fel arall wrth ddilyn cyrsiau iraddedig addysg uwch neu ôl-orforol. Roedd y grant ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn a rhan-amser a ddechreuodd eu cyrsiau yn 2002/03 a oedd yn hanu o Gymru ac yn astudio mewn coleg a ariennir yn gyhoeddus yn y DU. Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, roedd rhaid i'w cwrs gynnig o leiaf 30 credyd i fod yn gymwys.
Roedd cynllun 2002/03 ond yn cynnwys myfyrwyr sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Bellach neu Sefydliadau Addysg Uwch. Yn 2003/04, cafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys myfyrwyr ym mhob canolfan ddysgu (e.e. ysgolion) sy'n darparu cyrsiau a hwylusir gan ELWa neu AALl.
Yn 2006/07, cafodd y cyfrifoldeb dros weinyddu ceisiadau am ALGs ar gyfer myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach ei drosglwyddo o ALlau i'r SLC.