Dysgwyr Twf Swyddi Cymru Plws yn ôl Rhyw, Elfen a Mesur
None
|
Metadata
Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.Disgrifiad cyffredinol
Mae’r tabl hwn yn darparu data blynyddoedd ariannol ar Twf Swyddi Cymru Plws.Pwrpas Rhaglen Ieuenctid Twf Swyddi Cymru Plws yw darparu hyfforddiant, cyfleoedd datblygu a chymorth cyflogadwyedd cyfunol wedi’i deilwra i’r unigolyn ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed sy’n cael eu hasesu’n NEET (Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) wrth ddechrau’r rhaglen.
O ddechrau rhaglen Twf Swyddi Cymru Plws ym mis Ebrill 2022 tan ddiwedd Rhagfyr 2023, roedd cyrchfannau’r rhai a oedd yn gadael y rhaglen yn cynrychioli’r cyrchfannau o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen. O fis Ionawr 2024, mae hyn wedi’i addasu i fesur cyrchfannau o fewn wyth wythnos i adael y rhaglen.
Mae deilliant cadarnhaol yn golygu un ai symud ymlaen i ddysgu lefel uwch, symud ymlaen i gyflogaeth (amser llawn, rhan-amser neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i brentisiaeth. I ddysgwyr anabl a/neu sydd ag anhawster dysgu, ystyrir cyflogaeth o lai nag 16 awr yr wythnos hefyd yn ddeilliant cadarnhaol.