Neidio i'r cynnwys

Twf Swyddi Cymru Plws

Pwrpas Rhaglen Ieuenctid Twf Swyddi Cymru+ yw darparu hyfforddiant, datblygiad a chefnogaeth gyflogadwyedd gyfunol ac unigol i bobl ifanc 16-18 oed sy'n cael eu hasesu’n NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ar yr adeg y maent yn dechrau rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Mae’r data’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mis Mai ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR).