Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma’n dangos y materion amlycaf ar gyfer y plant a’r bobl ifanc a dderbyniodd wasanaeth cwnsela. Gellir rhannu’r data hwn yn ôl blwyddyn, ardal, materion amlycaf a rhyw.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth ddienw am eu gwasanaethau cwnsela i Lywodraeth Cymru. Mae’r data hwn yn sail i ddatblygu gwasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r data’n cael ei gasglu rhwng misoedd Medi ac Awst bob blwyddyn. Yn ogystal, dywedodd awdurdodau lleol nad oedd rhai plant neu bobl 322 ifanc a gafodd gwnsela yn nodi en bod yn wryw neu’n fenyw yn 2021/22. Bydd y ffurflen casglu data yn cael ei datblygu yn y dyfodol a bwdd yn cynnwys categoriau rhyw ychwanegol.
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir. (2013/14, 2014/15 a 2015/16 Ystadegau Arbrofol Dynodedig)
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau'n cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r 3 agosaf i warchod unigolion rhag cael eu hadnabod.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Dim
Teitl
Y materion amlycaf i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth cwnsela yn