Myfyrwyr blwyddyn gyntaf o Gymru ar gyrsiau AGA yn y DU yn ôl anabledd a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Myfyrwyr blwyddyn gyntaf o Gymru ar gyrsiau AGA yn y DU yn ôl anableddDiweddariad diwethaf
25ain Mai 2023Diweddariad nesaf
Mai 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Cymru a LloegrTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
AGA Addysg Gychwynnol i Athrawon Cymru SAC Statws Athro Cymwysedig TAR AddysgDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cynnig gwybodaeth am anableddau myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC), a ddarperir drwy sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.I addysgu fel athro cymwysedig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid i fyfyrwyr fodloni safonau SAC. Gall myfyrwyr wneud hynny drwy naill ai gwneud cwrs gradd gyntaf sy'n cyfuno gradd - fel arfer BEd, BA neu BSc - â SAC, neu drwy gwblhau cwrs TAR sy'n arwain at SAC. Mae modd dilyn llwybrau eraill sy'n seiliedig ar gyflogaeth er mwyn ennill SAC, ond nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn y bwletin hwn.
Mae'r ffigurau'n cynrychioli'r nifer sydd wedi cofrestru ar gyfer pob blwyddyn, ac maent wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. O 2007/08 ymlaen, ni fydd y boblogaeth gofrestru'n cynnwys y myfyrwyr hynny sydd ar flwyddyn sabothol neu'n ysgrifennu eu traethodau.
Dylid cymryd gofal wrth gymharu data ar yr holl fyfyrwyr dros gyfnod o amser gan fod hyd cyrsiau'n gallu amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd gyntaf a oedd gynt yn bedair blynedd o hyd, bellach yn gyrsiau tair blynedd o hyd.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth gofrestru safonol Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn cyfrif pawb a gofrestrodd o fewn y flwyddyn adrodd 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Ni chaiff myfyrwyr sy’n gadael o fewn pythefnos i’w dyddiad dechrau, neu o fewn blwyddyn i’w dyddiad dechrau, ac sydd ar gwrs sy’n para mwy na phythefnos, eu cynnwys yn y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen gyfan y tu allan i’r DU hefyd yn cael eu heithrio o’r niferoedd hyn.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth:• Mae cyfrifiadau o bobl yn cael eu talgrynnu i’r lluosrif o 5 agosaf.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Cyn cyhoeddi data 2021/22, cafodd myfyrwyr ar gyrsiau 'Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon y Blynyddoedd Cynnar' eu cynnwys yn y data. Nid yw'r myfyrwyr hyn bellach yn cael eu trin fel myfyrwyr ar gyrsiau sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC), ac felly maent yn cael eu tynnu o’r data. Adolygwyd ffigurau 2020/21 i adlewyrchu'r newid hwn. Mae'n ymddangos bod effaith y newid hwn yn fach iawn.Cyn cyhoeddi data 2021/22, roedd myfyrwyr ar gyrsiau 'Diploma Ôl-raddedig mewn Addysg' yn cael eu trin yn anghywir fel myfyrwyr TAR. Arweiniodd hynny at orgofnodi myfyrwyr ar gyrsiau TAR. Mae'r myfyrwyr hyn bellach yn cael eu trin fel myfyrwyr ar gyrsiau gradd 'Eraill' sy’n arwain at SAC. Diwygiwyd data 2020/21 i adlewyrchu'r newid hwn. Mae'n ymddangos bod effaith y newid hwn yn fach iawn.
Ansawdd ystadegol
Dylid bod yn ofalus wrth gymharu data ar gyfer pob myfyriwr dros amser oherwydd gall hyd cyrsiau amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd cyntaf a arferai fod yn 4 blynedd bellach yn 3 blynedd o hyd.