Myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau AGA yng Nghymru yn ôl gwlad gartref a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau AGA yng NghymruDiweddariad diwethaf
25ain Mai 2023Diweddariad nesaf
Mai 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau addysg Llywodraeth CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cynnig gwybodaeth am gofrestriadau ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC), a ddarperir drwy sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.I addysgu fel athro cymwysedig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid i fyfyrwyr fodloni safonau SAC. Gall myfyrwyr wneud hynny drwy naill ai gwneud cwrs gradd gyntaf sy'n cyfuno gradd - fel arfer BEd, BA neu BSc - â SAC, neu drwy gwblhau cwrs TAR sy'n arwain at SAC. Mae modd dilyn llwybrau eraill sy'n seiliedig ar gyflogaeth er mwyn ennill SAC, ond nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn y bwletin hwn.
Mae'r ffigurau'n cynrychioli'r nifer sydd wedi cofrestru ar gyfer pob blwyddyn, ac maent wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. O 2007/08 ymlaen, ni fydd y boblogaeth gofrestru'n cynnwys y myfyrwyr hynny sydd ar flwyddyn sabothol neu'n ysgrifennu eu traethodau.
Dylid cymryd gofal wrth gymharu data ar yr holl fyfyrwyr dros gyfnod o amser gan fod hyd cyrsiau'n gallu amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd gyntaf a oedd gynt yn bedair blynedd o hyd, bellach yn gyrsiau tair blynedd o hyd.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Cofnod Myfyriwr Asiantaeth Ystadegau Addysg UwchAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae poblogaeth gofrestru safonol Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn cyfrif pawb a gofrestrodd o fewn y flwyddyn adrodd 1 Awst tan 31 Gorffennaf. Ni chaiff myfyrwyr sy’n gadael o fewn pythefnos i’w dyddiad dechrau, neu o fewn blwyddyn i’w dyddiad dechrau, ac sydd ar gwrs sy’n para mwy na phythefnos, eu cynnwys yn y boblogaeth gofrestru safonol. Mae myfyrwyr segur, myfyrwyr sy’n ymweld a myfyrwyr cyfnewid o dramor a myfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen gyfan y tu allan i’r DU hefyd yn cael eu heithrio o’r niferoedd hyn.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn dilyn egwyddorion strategaeth dalgrynnu HESA. Diben y strategaeth yw atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu. Mae'n golygu talgrynnu'r ffigurau i'r lluosrif agosaf o 5. Dyma grynodeb o'r strategaeth:• Mae'r niferoedd sy'n llai na 3 wedi'u talgrynnu i 0 ac yn cael eu cynrychioli fel '.'
• Caiff pob ffigur arall eu talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol Agored yn cofnodi pob myfyriwr ar gyrsiau AGA yng nghanolfan genedlaethol Cymru'r Brifysgol Agored fel myfyrwyr sy’n hyfforddi i addysgu yn Gymraeg. Arweiniodd hyn at orgofnodi nifer y myfyrwyr a oedd yn hyfforddi i addysgu'n ddwyieithog yn 2020/21. Mae'r ffigurau hyn wedi cael eu diwygio ers hynny yn dilyn gwaith gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a'r Brifysgol Agored. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn cael gwybodaeth am fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu'n ddwyieithog yn uniongyrchol gan y Brifysgol Agored, er mwyn darparu ffigurau diwygiedig bob blwyddyn.Allweddeiriau
AGA Addysg Gychwynnol i Athrawon Cymru SAC Statws Athro Cymwysedig TAR AddysgAnsawdd ystadegol
Dylid bod yn ofalus wrth gymharu data ar gyfer pob myfyriwr dros amser oherwydd gall hyd cyrsiau amrywio. Er enghraifft, mae nifer o gyrsiau gradd cyntaf a arferai fod yn 4 blynedd bellach yn 3 blynedd o hyd.Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol Agored yn cofnodi pob myfyriwr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio cyrsiau addysg gychwynnol athrawon fel rhai sy’n hyfforddi i addysgu yn Gymraeg. Mae hyn yn golygu bod nifer y myfyrwyr sy’n hyfforddi i addysgu yn Gymraeg yn debygol o gael ei or-adrodd ar gyfer 2020/21 wrth gynnwys myfyrwyr o’r Brifysgol Agored. Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i sut gellir adrodd am y myfyrwyr hyn mewn ffordd fwy cywir.