Gwastraff gweddilliol y cartref a gynhyrchir fesul annedd yn ôl awdurdod lleol a chwarter
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Rheoli gwastraff trefol awdurdodau lleol, gan chwarterDiweddariad diwethaf
Awst 2017Diweddariad nesaf
Ni ddiweddarwyd mwyach.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
WasteDataFlow, Cyfoeth Naturiol CymruCyswllt ebost
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Data chwarterol yn cael ei roi ar faint o wastraff trefol awdurdodau lleol a gasglwyd ac a chanran y gwastraff hwn yn cael ei baratoi i'w ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio ar gyfer pob un o'r 22 o awdurdodau lleol.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae gwastraff trefol awdurdodau lleol Cymru yn cynnwys deunydd o eiddo domestig a masnachol sy'n cael ei gasglu gan, neu ar ran y 22 awdurdod lleol. Mae'r wybodaeth ar y swm a'r math o wastraff a gesglir a sut mae'n cael ei waredu yn cael eu casglu drwy'r system WasteDataFlow. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru adrodd gwybodaeth chwarterol ar wastraff trefol a gasglwyd; faint o wastraff trefol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi a faint o wastraff trefol a anfonwyd i gyfleusterau eraill. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei gyflwyno gan awdurdodau lleol drwy WasteDataFlow. Yr awdurdod monitro (Adnoddau Naturiol Cymru) sy'n gyfrifol am ddilysu'r data hwn. Mae'r data a gyhoeddir ar sail chwarterol yn ddata dros dro ac yn amodol ar ddiwygiadau hyd nes y ffigurau terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol wedi eu cyhoeddi. Gall fod rhai anghysondebau rhwng rhai o'r tablau gan fod rhai yn ymwneud â faint o wastraff a gynhyrchir / gesglir tra bod eraill yn cyfeirio at y swm a anfonir i'w drin. Gall hyn fod yn fater o amseru os, er enghraifft, bydd awdurdodau yn pentyrru gwastraff i'w drin nes ymlaen. Efallai hefyd y bydd rhai anghysondebau yn y mesur gan fod y gwastraff yn cael ei bwyso wrth gasglu ac eto pan mae'n cael ei anfon i gael triniaeth. Yn ogystal, efallai hefyd y bydd colli mewn pwysau drwy wahanol brosesau trin. Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn dilysu holl ffurflenni awdurdodau lleol ac yn ei gwgofyn bod rhaid i'r gwahaniaeth rhwng y swm a gasglwyd a'r swm a anfonir i gael triniaeth beidio gwahaniaethu mwy na 10 y cant mewn unrhyw chwarter, oni bai y gellir rhoi esboniad dilys. Nid yw gwastraff dinesig awdurdodau lleol yn cynnwys cerbydau sydd wedi eu gadael. Yn y tablau lle mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r digid terfynol agosaf, efallai na fydd swm yr eitemau yn cyfateb yn union at y cyfanswm.Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Gwneud yn ofynnol i'r rheoliadau yng Nghymru bod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu data i WasteDataFlow bob chwarter. Felly mae pob crynodeb chwarterol yn seiliedig ar ddychweliadau oddi wrth bob un o'r 22 o awdurdodau. Darperir data ar gyfer pob chwarter y flwyddyn ariannol o 2007 ymlaen.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Am wybodaeth bellach gweler Ansawdd Gwybodaeth Allweddol drwy gyfrwng dolenni gwe.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Yn y tablau lle mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r digid terfynol agosaf, efallai na fydd yr eitemau cyfansoddol adio i fyny yn union at y cyfanswm.Gwybodaeth am ddiwygiadau
O 1 Ebrill 2012 bu newidiadau yn y diffiniadau sy'n ymwneud â gwastraff trefol awdurdod lleol.Mae disgrifiad manwl o'r newidiadau diffiniad hyn a'u heffeithiau ar gael yn yr erthygl Ystadegol 'Rheoli Gwastraff Awdurdod Lleol: Newid mewn diffiniad'.Mae'r ffigurau ar gyfer Ebrill i Mawrth 2017 yn rhai dros dro ac yn amodol ar adolygiad unwaith y canlyniadau diwedd blwyddyn wedi eu cyfrifo.