Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Dynodiad
Ystadegau Gwladol
Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleol
Cwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleol
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r ciwb hwn gan StatsCymru yn cyflwyno data ar gyfer oedolion sy’n byw yng Nghymru sy’n cael eu trin mewn cyfnod treigl o 24 mis.
Casgliad data a dull cyfrifo
Daw'r data o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynwyd i'w talu ac a broseswyd gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
Mae ‘cleifion sy’n cael eu trin’ yn cyfrif nifer y cleifion unigryw sydd wedi cael eu trin yn ystod y 24 mis diwethaf; dim ond unwaith y caiff pob claf ei gyfrif hyd yn oed os yw wedi cael cyfnodau o ofal lluosog dros y cyfnod.
Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw’n ôl am archwiliadau bob 3 mis i 24 mis yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi oedolion sy'n cael eu trin, dylai'r mesur ystadegol sylfaenol fod yn seiliedig ar oedolion sy'n cael eu trin o fewn cyfnod o 24 mis.
Mae unrhyw gleifion sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyfrif o dan Gwm Taf Morgannwg am bob cyfnod o 24 mis; mae hyn yn cynnwys cyfnodau cyfeirio sy’n ymestyn dros y cyfnod cyn i’r newidiadau i ffiniau byrddau iechyd ddigwydd ym mis Ebrill 2019.