Preswylwyr sy'n blant yng Nghymru yn cael eu trin mewn cyfnod o 12 mis yn ôl bwrdd iechyd lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r ciwb hwn gan StatsCymru yn cyflwyno data ar gyfer plant sy’n byw yng Nghymru sy’n cael eu trin mewn cyfnod treigl o 12 mis.Casgliad data a dull cyfrifo
Daw'r data o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynwyd i'w talu ac a broseswyd gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae ‘cleifion sy’n cael eu trin’ yn cyfrif nifer y cleifion unigryw sydd wedi cael eu trin yn ystod y 12 mis diwethaf; dim ond unwaith y caiff pob claf ei gyfrif hyd yn oed os yw wedi cael cyfnodau o ofal lluosog dros y cyfnod.
Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod plant yn cael eu galw’n ôl am archwiliadau bob 3 mis i 12 mis yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi plant sy'n cael eu trin, dylai'r mesur ystadegol sylfaenol fod yn seiliedig ar blant sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 12 mis.
Mae unrhyw gleifion sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyfrif o dan Gwm Taf Morgannwg am bob cyfnod o 12 mis; mae hyn yn cynnwys cyfnodau cyfeirio sy’n ymestyn dros y cyfnod cyn i’r newidiadau i ffiniau byrddau iechyd ddigwydd ym mis Ebrill 2019.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer cleifion a gafodd driniaeth yn y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 ymlaenTeitl
Preswylwyr sy'n blant yng Nghymru yn cael eu trin mewn cyfnod o 12 mis yn ôl bwrdd iechyd lleolDiweddariad diwethaf
12 Rhagfyr 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGFfynhonnell 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleolDolenni'r we
Mae canllawiau NICE yn argymell bod oedolion yn cael eu galw’n ôl am archwiliadau bob 3 mis i 24 mis yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi oedolion sy'n cael eu trin, dylai'r mesur ystadegol sylfaenol fod yn seiliedig ar oedolion sy'n cael eu trin o fewn cyfnod o 24 mis. Mae’r holl ddata ar gyfer oedolion sy’n byw yng Nghymru sy’n cael eu trin ar sail 24 mis i’w gweld yn y ciwb HLTH0558 StatsCymru yn y ddolen yma: https://statswales.gov.wales/Catalogue/Health-and-Social-Care/General-Dental-Services/Current-Contract/Welshresidentadultstreatedina24monthperiod-by-localhealthboardNHS dental services:
https://gov.wales/nhs-dental-services
NHS dental services quality report:
https://www.gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2021-09/nhs-dental-services-quality-report-557.pdf