
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl mesur Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN)Diweddariad diwethaf
27 Chwefror 2025 (wedi'i ohirio o 31 Hydref 2024)Diweddariad nesaf
TBCSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruDisgrifiad cyffredinol
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl mesur Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN) ar gyfer pob cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i oedolion a phob cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i blant.Casgliad data a dull cyfrifo
Seilir yr ystadegau ar gleifion sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y data hwn yn cynnwys trigolion o'r tu allan i Gymru sy'n cael eu trin yng Nghymru ond nid yw'n cynnwys trigolion o Gymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru. Y rheswm dros hyn yw bod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata FP17W o bractisau deintyddol yng Nghymru yn unig.Rhaglen sy'n caniatáu i ddeintyddion y GIG gynnal asesiadau risgiau ac anghenion mewn ffordd systematig yw ACORN. Mae deintyddion yn defnyddio system sgorio â chod lliw i asesu gwahanol agweddau ar iechyd deintyddol a risgiau cleifion yn unol â chanllawiau'r pecyn cymorth, gyda gwyrdd yn dynodi risg/angen isel a choch yn dynodi risg/angen uchel. Mae data ACORN wedi'i gasglu a'i ddilysu o fis Ebrill 2022.
Dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022 ymlaen y mae data ar gael. Gan fod y mesur i oedolion yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio o 24 mis, y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael ar ei chyfer yw'r 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw'n ôl am wiriadau deintyddol wedi cyfnod o 3 mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg. Mae'r canllawiau'n argymell hefyd nad yw'r cyfnod adalw hwyaf i blant (o dan 18 oed) yn hwy na 12 mis. Felly, mae ystadegau ar oedolion sy'n cael eu trin yn seiliedig ar y cyfnod blaenorol o 24 mis; mae'r ystadegau ar gyfer plant yn cyfeirio at y cyfnod blaenorol o 12 mis.
Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif, hyd yn oed os yw wedi cael sawl cyfnod o ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Ar gyfer oedolion, mae'r cyfnod cyfeirio yn ymwneud â'r cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth bob blwyddyn (2023 ymlaen). Ar gyfer plant, mae'r cyfnod cyfeirio yn ymwneud â'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth bob blwyddyn (2022 ymlaen).Ansawdd ystadegol
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.Allweddeiriau
Gwasanaethau Deintyddol; Gwasanaethau Deintyddol y GIGDolenni'r we
https://www.llyw.cymru/gwasanaethau-deintyddol-gighttps://primarycareone.nhs.wales/topics/primary-dental-care/dental-reform-programme-for-wales/prevention-and-quality-care/#:~:text=Assessment%20of%20Clinical%20Oral%20Risks%20and%20Need%20%28ACORN%29,findings%20from%20the%20patient%20history%20and%20clinical%20examination.
https://primarycareone.nhs.wales/files/acorn-and-expectations/acorn-guidance-version-1-3-06-12-2021-pdf/