Oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl preswylfa’r claf a darparwr driniaeth
None
|
Metadata
Teitl
Oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl preswylfa’r claf a darparwr driniaethDiweddariad diwethaf
12 Rhagfyr 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025 (dros dro)Ffynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar lif cleifion trawsffiniol. Dangosir data ar gyfer oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl gwlad breswyl a gwlad y darparwr triniaeth, ar gyfer pob cyfnod treigl o 24 mis i oedolion a phob cyfnod treigl o 12 mis i blant.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod plant yn cael eu galw’n ôl am archwiliadau bob 3 mis i 12 mis yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi plant sy'n cael eu trin, dylai'r mesur ystadegol sylfaenol fod yn seiliedig ar blant sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 12 mis.Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif hyd yn oed os yw wedi derbyn sawl cyfnod ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.
Ar gyfer cleifion sy'n byw y tu allan i Gymru, mae pob gwlad breswyl (Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) wedi'u grwpio gyda'i gilydd yn y categori 'Tu Allan i Gymru'. Yn yr un modd, ar gyfer cleifion a gafodd eu trin y tu allan i Gymru, mae pob gwlad (Lloegr ac Ynys Manaw) wedi'u grwpio gyda'i gilydd yn y categori 'Tu allan i Gymru'
Ni ddangosir data ar gyfer cleifion nad ydynt yn byw yng Nghymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru.
Mae unrhyw gleifion sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyfrif o dan Cwm Taf Morgannwg am bob cyfnod 24 mis (oedolion) a 12 mis (plant); Mae hyn yn cynnwys cyfnodau cyfeirio sy'n ymestyn dros y cyfnod cyn i newidiadau ffiniau y bwrdd iechyd ddigwydd ym mis Ebrill 2019.