Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol
None
Mesur[Hidlwyd]
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
Ardal 1[Hidlo]
CyfnodAr gyfer oedolion, mae\'r cyfnod cyfeirio yn ymwneud â\'r cyfnod o 24 mis sy\'n dod i ben ym mis Mawrth bob blwyddyn (2023 ymlaen). Ar gyfer plant, mae\'r cyfnod cyfeirio yn ymwneud â\'r cyfnod o 12 mis sy\'n dod i ben ym mis Mawrth bob blwyddyn (2022 ymlaen).[Hidlwyd]
CodArdal[Hidlo]
Measure1
Math o gleifion[Hidlo]
Rhyw[Hidlo]
Cliciwch yma i ddidoliOedolynCliciwch yma i ddidoliPlentyn
Dynion468,522148,027
Merched583,204147,755

Metadata

Teitl

Oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol

Diweddariad diwethaf

27 Chwefror 2025 (wedi'i ohirio o 31 Hydref 2024) 27 Chwefror 2025 (wedi'i ohirio o 31 Hydref 2024)

Diweddariad nesaf

TBC

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Ffynhonnell 2

Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol, ar gyfer pob cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i oedolion a phob cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth i blant.

Casgliad data a dull cyfrifo

Seilir yr ystadegau ar gleifion sy'n cael eu trin mewn practisau deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y data hwn yn cynnwys trigolion o'r tu allan i Gymru sy'n cael eu trin yng Nghymru ond nid yw'n cynnwys trigolion o Gymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru. Y rheswm dros hyn yw bod gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata FP17W o bractisau deintyddol yng Nghymru yn unig.

Dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2022 ymlaen y mae data ar gael. Gan fod y mesur i oedolion yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio o 24 mis, y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael ar ei chyfer yw'r 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw'n ôl am wiriadau deintyddol wedi cyfnod o 3 mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg. Mae'r canllawiau'n argymell hefyd nad yw'r cyfnod adalw hwyaf i blant (o dan 18 oed) yn hwy na 12 mis. Felly, mae ystadegau ar oedolion sy'n cael eu trin yn seiliedig ar y cyfnod blaenorol o 24 mis; mae'r ystadegau ar gyfer plant yn cyfeirio at y cyfnod blaenorol o 12 mis.

Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif, hyd yn oed os yw wedi cael sawl cyfnod o ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Ar gyfer oedolion, mae'r cyfnod cyfeirio yn ymwneud â'r cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth bob blwyddyn (2023 ymlaen). Ar gyfer plant, mae'r cyfnod cyfeirio yn ymwneud â'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth bob blwyddyn (2022 ymlaen).

Ansawdd ystadegol

Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.

Allweddeiriau

Gwasanaethau Deintyddol; Gwasanaethau Deintyddol y GIG