

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data hwn yn dangos nifer (a chanran) y cyrsiau o driniaeth gyda thriniaethau corfforol a chyngor ataliol.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae'r eitemau data clinigol yn y ffurflen FP17W yn cynnwys triniaethau corfforol yn ogystal â chyngor ataliol ac eitemau a roddir ar bresgripsiwn. Er enghraifft, gallai un cwrs o driniaeth gynnwys gweithgarwch deintyddol clinigol fel llenwad parhaol, cyngor ar frwsio dannedd, a phresgripsiwn am wrthfiotig.
Weithiau gwneir newidiadau i'r rhan data clinigol o'r ffurflen FP17W. Fel arfer, mae eitemau set data clinigol blaenorol yn cael eu diddymu'n raddol ac ychwanegir eitemau newydd; bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data dros amser.
Oherwydd y gallai cwrs o driniaeth fod wedi dechrau cyn y flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi, gall data ymddangos ar gyfer eitemau clinigol sydd wedi dod i ben. Er enghraifft, daeth graddfa a sglein i ben ym mis Ebrill 2020, ond mae yna gyrsiau o driniaeth â graddfa a sglein sy'n ymwneud â blynyddoedd dilynol a ddechreuodd cyn Ebrill 2020.
Mae data ar gyfer yr holl eitemau cyngor ataliol ar gael o 2022-23 ymlaen.
Mae'r data hwn yn disodli ciwbiau blaenorol StatsCymru yn ymwneud â gweithgarwch clinigol. Roedd data mewn ciwbiau StatsCymru blaenorol yn seiliedig ar fandiau triniaeth 1 i 3 a brys yn unig; mae'r data hwn yn cynnwys pob band triniaeth.