Cyrsiau o driniaeth gydag eitemau rhagnodedig yn ôl band triniaeth a math o gleifion
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data hwn yn dangos nifer y cyrsiau o driniaeth ag eitemau rhagnodedig.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae'r eitemau data clinigol yn y ffurflen FP17W yn cynnwys triniaethau corfforol yn ogystal â chyngor ataliol ac eitemau a roddir ar bresgripsiwn. Er enghraifft, gallai un cwrs o driniaeth gynnwys gweithgarwch deintyddol clinigol fel llenwad parhaol, cyngor ar frwsio dannedd, a phresgripsiwn am wrthfiotig.
Weithiau gwneir newidiadau i'r rhan data clinigol o'r ffurflen FP17W. Fel arfer, mae eitemau set data clinigol blaenorol yn cael eu diddymu'n raddol ac ychwanegir eitemau newydd; bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data dros amser.
Ar wahân i wrthfiotigau, mae data ar gyfer yr holl eitemau a ragnodwyd ar gael o 2022-23 ymlaen.
Mae'r data hwn yn disodli ciwbiau blaenorol StatsCymru yn ymwneud â gweithgarwch clinigol. Roedd data mewn ciwbiau StatsCymru blaenorol yn seiliedig ar fandiau triniaeth 1 i 3 a brys yn unig; mae'r data hwn yn cynnwys pob band triniaeth.