
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data hwn yn dangos nifer y cleifion deintyddol newydd y GIG sy'n cael eu trin a nifer y triniaethau brys newydd i gleifion (2023-24 ymlaen yn unig).Casgliad data a dull cyfrifo
Fel rhan o'r rhaglen diwygio contractau deintyddol a gyhoeddwyd yn 2020, mae practisau deintyddol yn cael eu talu am weld cleifion newydd ac mae data ar gleifion newydd wedi'u casglu ers mis Ebrill 2022. Y nod o gofnodi cleifion newydd yw cyfrif y rhai sydd newydd gofrestru gyda deintydd GIG ar gyfer triniaethau arferol. Mae mesur ar wahân i gyfrif triniaethau brys cleifion newydd, na fyddant efallai wedi'u cofrestru i ddeintydd y GIG ar gyfer apwyntiadau arferol.Mae cleifion newydd yn cael eu diffinio fel: Cyfrif unigryw o gleifion ym mhob contractwr deintyddol GIG a ddechreuodd driniaeth Band 1, 2, neu 3 gydag ACORN cyflawn yn y flwyddyn, y cwblhawyd ei driniaeth Band 1, 2 neu 3 flaenorol yn y contractwr fwy na 48 mis cyn yr ACORN; neu sydd heb gael eu trin yn flaenorol gan gontractwr deintyddol y GIG.
Ar gyfer 2023-24, addaswyd y cyfnod i gyfrif cleifion newydd i gyfrif triniaethau Band 1, 2 neu 3 yn ôl i 1 Ebrill 2019, i gydnabod yr aflonyddwch difrifol i wasanaethau deintyddol y GIG a achoswyd gan bandemig COVID-19.
Mae 'triniaethau brys cleifion newydd' yn cael eu diffinio fel: Cyfrif o driniaethau brys ym mhob contractwr deintyddol yn y GIG a ddechreuodd yn y flwyddyn, ar gyfer cleifion yr oedd eu triniaeth Band 1, 2 neu 3 blaenorol yn y contractwr yn fwy na 48 mis cyn y driniaeth frys; neu sydd heb gael eu trin yn flaenorol gan gontractwr deintyddol y GIG. Gellir cyfrif yr un claf sawl gwaith os oedd ganddo nifer o driniaethau brys ar yr un contract. Mae'r data hwn ar gael rhwng 2023-24.
Nid yw ‘triniaethau brys cleifion newydd’ yn is-set o 'gleifion newydd' a gellir cyfrif yr un claf yn y ddau fesur yn yr un flwyddyn yn dibynnu ar amgylchiadau eu triniaeth.