

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos perfformwyr y GIG yn ôl bwrdd iechyd lleol a'r math o ddeintydd.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru ac felly mae’n effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a blwyddyn ariannol lawn 2020-21. Lle mae gostyngiad bach mewn lefelau gweithgarwch yn 2019-20 a gostyngiadau mawr yn 2020-21, mae’n debygol o fod o ganlyniad i’r pandemig.Mae'r tablau'n ymwneud â thriniaeth ddeintyddol y GIG a gyflawnir gan 'ddeintyddion stryd fawr'. Nid yw'n cwmpasu gwaith preifat a gyflawnir gan ddeintyddion na deintyddion sy'n gweithio yn yr ysbyty neu mewn gwasanaeth deintyddol cymunedol.
Nid oes modd cymharu'r data â data blaenorol o dan yr hen drefniadau cytundebol.
Yn sgil newidiadau i’r system gasglu yn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, sylwch fod methodoleg newydd wedi’i defnyddio i nodi trefniadau gweithio deintyddion (hy math o ddeintydd) o 2018-19 ymlaen. Mae’r newid yn y fethodoleg wedi arwain at nifer mawr o ddeintyddion yn cael eu hailddosbarthu fel darparwr-gyflawnydd a gostyngiad canlyniadol yn nifer y deintyddion cyswllt ((cyflawnydd yn unig) yn nata 2018-19 a 2019-20, gan nodi toriad mawr yn y gyfres amser. Nid yw hyn wedi effeithio ar gyfanswm y deintyddion ond dylid bod yn ofalus wrth wneud unrhyw gymhariaeth â math o ddeintydd yn y data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2017-18 ac ynghynt. Er y newid hwn, nid yw’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer deintyddion darparwr yn unig gan nad oes gweithgarwch GIG wedi’i gofnodi ar eu cyfer.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2010-11 ymlaen.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
DimGwybodaeth am ddiwygiadau
DimTeitl
Data gweithlu yn ôl rhif perfformiwr, grwp oedran, math o gontract, rhyw y perfformiwr a math o ddeintyddDiweddariad diwethaf
17 Hydref 2023Diweddariad nesaf
Medi 2024 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Dental; NHS Dental; Dentist; Dental PerformersAnsawdd ystadegol
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.Ystadegau a gyflwynwyd yma yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan nad oes disgwyl i amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 gael eu cyhoeddi tan fis Tachwedd 2022. Gan fod yr ystadegau'n seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth o gyfnod amser gwahanol, dylid eu trin yn ofalus a’u hystyried yn rhai dros dro.
Wrth i ddata o Gyfrifiad 2021 ddod ar gael, bydd yr ONS hefyd yn ail-seilio’r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2012 a chanol 2020 yng ngwanwyn 2023. Mae hyn yn golygu y bydd ystadegau ar gyfer canran y boblogaeth a dderbyniodd wasanaethau deintyddol y GIG yn y blynyddoedd hyn yn cael eu diwygio yn natganiad ystadegol deintyddol nesaf y GIG. Os bydd y diwygiadau'n arwain at newidiadau mawr i'r data, bydd sylwadau manylach ar y rhain yn y datganiad.
Dolenni'r we
Gwasanaethau deintyddol GIG:https://llyw.cymru/gwasanaethau-deintyddol-gig
https://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol