
Mae ffigurau'n dangos nifer y deintyddion gyda gweithgarwch y GIG a gofnodwyd mewn ffurflenni FP17W sydd wedi ymuno a gadael yn ôl blwyddyn.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y deintyddion â gweithgaredd y GIG sydd wedi ymuno ac wedi gadael fesul blwyddyn. Diffinnir y rhai sydd wedi ymuno fel perfformiwr deintyddol gyda gweithgaredd y GIG a gofnodwyd mewn ffurflenni FP17W yn y flwyddyn gyfeirio, ond nid yn y flwyddyn flaenorol. Diffinnir y rhai sydd wedi gadael fel perfformiwr deintyddol gyda gweithgarwch y GIG a gofnodwyd mewn ffurflenni FP17W yn y flwyddyn gyfeirio, ond dim yn y flwyddyn ganlynol. Am y rheswm hwn, mae'r gyfres y rhai sydd wedi gadael flwyddyn y tu ôl i gyfres y rhai sydd wedi ymuno.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru, ac mae felly wedi effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a'r blynyddoedd ariannol llawn 2020-21 a 2021-22.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.