

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data hwn yn dangos nifer yr eitemau sylfaenol ar gyfer triniaethau corfforol mewn cwrs o driniaeth. Er enghraifft, gallai cwrs o driniaeth â radiograff gynnwys deg radiograff unigol (byddai'r olaf yn cael ei ddangos yn y data hwn).Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae'r eitemau data clinigol yn y ffurflen FP17W yn cynnwys triniaethau corfforol yn ogystal â chyngor ataliol ac eitemau a roddir ar bresgripsiwn. Er enghraifft, gallai un cwrs o driniaeth gynnwys gweithgarwch deintyddol clinigol fel llenwad parhaol, cyngor ar frwsio dannedd, a phresgripsiwn am wrthfiotig.
Weithiau gwneir newidiadau i'r rhan data clinigol o'r ffurflen FP17W. Fel arfer, caiff eitemau setiau data clinigol blaenorol eu dirwyn i ben yn raddol ac ychwanegir eitemau newydd; bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data dros amser.
Mae'r data hwn yn disodli ciwbiau blaenorol StatsCymru yn ymwneud â gweithgarwch clinigol. Roedd data mewn ciwbiau StatsCymru blaenorol yn seiliedig ar fandiau triniaeth 1 i 3 a brys yn unig; mae'r data hwn yn cynnwys pob band triniaeth.