

Mae ffigyrau'n dangos nifer y cleifion sydd mewn gofal orthodonteg bob blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y cleifion ar wahanol gyfnodau o weithgarwch orthodontig fesul oedran a blwyddyn. Mae orthodonteg yn faes deintyddol arbenigol sy'n ymwneud â thwf a datblygiad y dannedd a'r genau, ac atal a thrin annormaleddau yn y datblygiad hwn, felly mae'r rhan fwyaf o gleifion yn blant.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru, ac mae felly wedi effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a'r blynyddoedd ariannol llawn 2020-21 a 2021-22.