Eitemau triniaeth glinigol yn ôl band taliadau, math o gleifion, math o eitem a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Eitemau triniaeth glinigol yn ôl band taliadau, math o gleifion, math o eitem a blwyddynDiweddariad diwethaf
13 Hydref 2022Diweddariad nesaf
Medi 2023 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer pob math gwahanol o driniaeth, yn ôl band triniaeth, ar gyfer oedolion a phlant. Ar 1 Ebrill 2008, cyflwynwyd y set ddata glinigol i'r broses o gasglu data deintyddol, sy’n golygu y gellir cofnodi gwybodaeth ychwanegol gan ymarferwyr deintyddol am ystod o driniaethau deintyddol clinigol. Gellir defnyddio'r data clinigol hwn yn gryno i fonitro patrymau triniaeth ac i gynorthwyo â chynllunio cenedlaethol a lleol. Cofnodir gweithgarwch clinigol gan ddeintyddion a'i gyflwyno gyda data arall am weithgarwch ar y ffurflen FP17W i Wasanaethau Deintyddol y GIG. Cofnodir 16 o driniaethau clinigol posibl. Sylwer y gall claf dderbyn mwy nag un driniaeth glinigol o fewn un cwrs o driniaeth.Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y gwahanol gyrsiau o driniaethau yn ôl band triniaeth. Mae triniaethau wedi'u rhannu'n fandiau triniaeth, sy'n cael eu defnyddio i benderfynu ar y tâl sy'n cael ei dalu gan gleifion:
Band 1 – archwiliad a thriniaeth syml (megis archwiliad, diagnosis (e.e. pelydr-x), cyngor ar fesurau ataliol, a digennu a llathrru.
Band 2 - yn cynnwys triniaethau canolig (megis llenwi neu dynnu dant, a gwaith ar sianel y gwreiddyn) yn ogystal â gwaith Band 1.
Band 3 – yn cynnwys triniaethau cymhleth (fel coronau, dannedd gosod, a phontydd, yn ogystal â gwaith Band 1 a Band 2.
Brys - set benodedig o driniaethau posibl a ddarperir i glaf mewn amgylchiadau lle: y darperir gofal a thriniaeth gyflym oherwydd, ym marn yr ymarferydd deintyddol, bod iechyd ceg y person hwnnw'n debygol o ddirywio'n sylweddol, neu fod y person mewn poen difrifol oherwydd cyflwr y geg; a dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol i atal y dirywiad sylweddol hwnnw neu i fynd i'r afael â'r boen ddifrifol honno y mae gofal a thriniaeth yn cael eu darparu.
Am ddim – ni chodir tâl ar gleifion am y triniaethau hyn ac maent yn cynnwys: atal gwaedu, atgyweirio pont, atgyweirio dannedd gosod, tynnu pwythau, a materion yn ymwneud â phresgripsiwn.
Mae tâl y claf am y band brys yr un fath â'r tâl ar gyfer Band 1.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru, ac mae felly wedi effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a'r blynyddoedd ariannol llawn 2020-21 a 2021-22.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.