Data gweithgarwch deintyddol yn ôl band tâl, math o glaf, math o driniaeth, bwrdd iechyd lleol a blwyddyn
Mae ffigyrau'n dangos nifer y gwahanol gyrsiau o driniaethau sy'n digwydd bob blwyddyn.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Data agored
Ansawdd ystadegol
Dewch o hyd i'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol ac adroddiad ansawdd cysylltiedig, fel y dangosir yn y ddolen a ddarparwyd.Teitl
Gweithgarwch deintyddol yn ôl band taliadau, math o gleifion, math o driniaeth a blwyddyn.Diweddariad diwethaf
13 Hydref 2022Diweddariad nesaf
Medi 2023 (dros dro)Ffynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Gwasanaethau Deintyddol; Gwasanaethau Deintyddol y GIG; Band Triniaeth; Cyrsiau TriniaethDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y gwahanol gyrsiau o driniaethau yn ôl band triniaeth. Mae triniaethau wedi'u rhannu'n fandiau triniaeth, sy'n cael eu defnyddio i benderfynu ar y tâl sy'n cael ei dalu gan gleifion:Band 1 – archwiliad a thriniaeth syml (megis archwiliad, diagnosis (e.e. pelydr-x), cyngor ar fesurau ataliol, a digennu a llathrru.
Band 2 - yn cynnwys triniaethau canolig (megis llenwi neu dynnu dant, a gwaith ar sianel y gwreiddyn) yn ogystal â gwaith Band 1.
Band 3 – yn cynnwys triniaethau cymhleth (fel coronau, dannedd gosod, a phontydd, yn ogystal â gwaith Band 1 a Band 2.
Brys - set benodedig o driniaethau posibl a ddarperir i glaf mewn amgylchiadau lle: y darperir gofal a thriniaeth gyflym oherwydd, ym marn yr ymarferydd deintyddol, bod iechyd ceg y person hwnnw'n debygol o ddirywio'n sylweddol, neu fod y person mewn poen difrifol oherwydd cyflwr y geg; a dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol i atal y dirywiad sylweddol hwnnw neu i fynd i'r afael â'r boen ddifrifol honno y mae gofal a thriniaeth yn cael eu darparu.
Am ddim – ni chodir tâl ar gleifion am y triniaethau hyn ac maent yn cynnwys: atal gwaedu, atgyweirio pont, atgyweirio dannedd gosod, tynnu pwythau, a materion yn ymwneud â phresgripsiwn.
Mae tâl y claf am y band brys yr un fath â'r tâl ar gyfer Band 1.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru, ac mae felly wedi effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a'r blynyddoedd ariannol llawn 2020-21 a 2021-22.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.