Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Canran o gyrsiau triniaeth gyda gweithgaredd clinigol yn ôl math o gleifion, band triniaeth, triniaeth glinigol a blwyddyn

Ffigyrau'n dangos canran y triniaethau clinigol fesul cwrs o driniaeth y flwyddyn.

None
Patient Type[Hidlwyd]
Date[Hidlwyd]
Measure[Hidlwyd]
Measure1
Band[Hidlo]
Treatment[Hidlo]
Cliciwch yma i ddidoliBand 1Archwiliadau arferol, gweithdrefnau digennu a diagnostig. Gweler y Datganiad Ystadegol i gael rhestr fwy llawn.Cliciwch yma i ddidoliBand 2Llenwadau a thynnu dannedd. Gweler y Datganiad Ystadegol i gael rhestr fwy llawn.Cliciwch yma i ddidoliBand 3Triniaeth sy’n gofyn am waith labordy. Gweler y Datganiad Ystadegol i gael rhestr lawnach.Cliciwch yma i ddidoliBrysUn o gyfres benodol o driniaethau posibl a ddarperir i unigolyn dan amgylchiadau penodol.  Gweler y Datganiad Ystadegol i gael rhestr fwy llawn.Cliciwch yma i ddidoliAll Bands
Presgripsiwn o eitemau gwrthfiotig00000
Archwiliad9895974081
Triniaeth arall1426306031
Atgyfeiriad ar gyfer uwch-wasanaethau gorfodol01000
Farnais fflworid6277684863
Mewnosodiadau00000
Dannedd gosod gwaelod - acrylig002301
Dannedd gosod gwaelod - metel00000
Cymryd radiograffau4256493846
Digennu a llathru01100
Dannedd gosod uchaf - acrylig004203
Dannedd gosod uchaf - metel00000
Pontydd wedi'u gosod00600
Argaenau wedi'u gosod00100
Coronau wedi'u darparu002902
Triniaeth Endotonteg05802
Tynnu dannedd025311915
Llenwadau parhaol ac adferiadau selydd070352130
Selio rhychau00000

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer pob math gwahanol o driniaeth, yn ôl band triniaeth, ar gyfer oedolion a phlant. Ar 1 Ebrill 2008, cyflwynwyd y set ddata glinigol i'r broses o gasglu data deintyddol, sy’n golygu y gellir cofnodi gwybodaeth ychwanegol gan ymarferwyr deintyddol am ystod o driniaethau deintyddol clinigol. Gellir defnyddio'r data clinigol hwn yn gryno i fonitro patrymau triniaeth ac i gynorthwyo â chynllunio cenedlaethol a lleol. Cofnodir gweithgarwch clinigol gan ddeintyddion a'i gyflwyno gyda data arall am weithgarwch ar y ffurflen FP17W i Wasanaethau Deintyddol y GIG. Cofnodir 16 o driniaethau clinigol posibl. Sylwer y gall claf dderbyn mwy nag un driniaeth glinigol o fewn un cwrs o driniaeth.
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y gwahanol gyrsiau o driniaethau yn ôl band triniaeth. Mae triniaethau wedi'u rhannu'n fandiau triniaeth, sy'n cael eu defnyddio i benderfynu ar y tâl sy'n cael ei dalu gan gleifion:
Band 1 – archwiliad a thriniaeth syml (megis archwiliad, diagnosis (e.e. pelydr-x), cyngor ar fesurau ataliol, a digennu a llathrru.
Band 2 - yn cynnwys triniaethau canolig (megis llenwi neu dynnu dant, a gwaith ar sianel y gwreiddyn) yn ogystal â gwaith Band 1.
Band 3 – yn cynnwys triniaethau cymhleth (fel coronau, dannedd gosod, a phontydd, yn ogystal â gwaith Band 1 a Band 2.
Brys - set benodedig o driniaethau posibl a ddarperir i glaf mewn amgylchiadau lle: y darperir gofal a thriniaeth gyflym oherwydd, ym marn yr ymarferydd deintyddol, bod iechyd ceg y person hwnnw'n debygol o ddirywio'n sylweddol, neu fod y person mewn poen difrifol oherwydd cyflwr y geg; a dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol i atal y dirywiad sylweddol hwnnw neu i fynd i'r afael â'r boen ddifrifol honno y mae gofal a thriniaeth yn cael eu darparu.
Am ddim – ni chodir tâl ar gleifion am y triniaethau hyn ac maent yn cynnwys: atal gwaedu, atgyweirio pont, atgyweirio dannedd gosod, tynnu pwythau, a materion yn ymwneud â phresgripsiwn.
Mae tâl y claf am y band brys yr un fath â'r tâl ar gyfer Band 1.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru, ac mae felly wedi effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a'r blynyddoedd ariannol llawn 2020-21 a 2021-22.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2010-11 ymlaen.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Dim

Teitl

Cyfraddau gweithgarwch clinigol yn ôl math o gleifion, band triniaeth, triniaeth glinigol, mesur a blwyddyn.

Diweddariad diwethaf

13 Hydref 2022 13 Hydref 2022

Diweddariad nesaf

Medi 2023 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Dewch o hyd i'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol ac adroddiad ansawdd cysylltiedig, fel y dangosir yn y ddolen a ddarparwyd.

Allweddeiriau

Gwasanaethau Deintyddol; Dwasanaethau Deintyddol y GIG; Band Triniaeth; Cyrsiau Triniaeth

Enw

HLTH0533