

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Unedau o weithgaredd deintyddol yn ôl triniaeth band, bwrdd iechyd lleol a chwarterDiweddariad diwethaf
25 Mai 2023Diweddariad nesaf
28 Medi 2023Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos gweithgaredd y GIG fesul chwarter.Unedau Gweithgarwch Deintyddol. Dyma'r term technegol a ddefnyddiwyd yn rheoliadau Contract Deintyddol newydd y GIG i ddisgrifio hawliadau am driniaeth wedi'u pwysoli. Maent yn cyfeirio at yr hawliad cyfan, nid dim ond at eitemau unigol. Mae'r rhestr isod yn dangos y pwysoliad ar gyfer pob un o'r bandiau categori triniaeth a defnyddir hyn i gyfrifo hawliadau am driniaeth yn ôl ffigurau band.
Band 1: 1.0
Band 2: 3.0
Band 3: 12.0
Band 1 brys: 1.20
Atal Gwaedu: 1.20
Atgyweirio Pont Ddeintyddol: 1.20
Trwsio Dannedd Gosod: 1.0
Rhoi Presgripsiwn: 0.0
Tynnu Pwythau: 1.0
Cafodd uned o weithgarwch deintyddol o 0.75 ar gyfer rhoi presgripsiwn ei thynnu o 1 Tachwedd 2012.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru ac felly mae’n effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a blwyddyn ariannol lawn 2020-21 ymlaen.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Ebrill - Mehefin 2009 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Dim.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae data'n cael ei ddiwygio ar ddiwedd y flwyddyn.Dolenni'r we
Gwasanaethau deintyddol GIG:https://llyw.cymru/gwasanaethau-deintyddol-gig
https://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol