Preswylwyr sy'n oedolion yng Nghymru yn cael eu trin mewn cyfnod o 24 mis yn ôl bwrdd iechyd lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Preswylwyr sy'n oedolion yng Nghymru yn cael eu trin mewn cyfnod o 24 mis yn ôl bwrdd iechyd lleolDiweddariad diwethaf
12 Rhagfyr 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Deintyddol, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGFfynhonnell 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleolDisgrifiad cyffredinol
Mae’r ciwb hwn gan StatsCymru yn cyflwyno data ar gyfer oedolion sy’n byw yng Nghymru sy’n cael eu trin mewn cyfnod treigl o 24 mis.Casgliad data a dull cyfrifo
Daw'r data o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynwyd i'w talu ac a broseswyd gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.Mae ‘cleifion sy’n cael eu trin’ yn cyfrif nifer y cleifion unigryw sydd wedi cael eu trin yn ystod y 24 mis diwethaf; dim ond unwaith y caiff pob claf ei gyfrif hyd yn oed os yw wedi cael cyfnodau o ofal lluosog dros y cyfnod.
Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw’n ôl am archwiliadau bob 3 mis i 24 mis yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi oedolion sy'n cael eu trin, dylai'r mesur ystadegol sylfaenol fod yn seiliedig ar oedolion sy'n cael eu trin o fewn cyfnod o 24 mis.
Mae unrhyw gleifion sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyfrif o dan Gwm Taf Morgannwg am bob cyfnod o 24 mis; mae hyn yn cynnwys cyfnodau cyfeirio sy’n ymestyn dros y cyfnod cyn i’r newidiadau i ffiniau byrddau iechyd ddigwydd ym mis Ebrill 2019.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer cleifion a gafodd driniaeth yn y 24 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 ymlaenAnsawdd ystadegol
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.Dolenni'r we
Mae canllawiau NICE yn argymell bod plant yn cael eu galw’n ôl am archwiliadau bob 3 mis i 12 mis yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi plant sy'n cael eu trin, dylai'r mesur ystadegol sylfaenol fod yn seiliedig ar blant sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 12 mis. Mae’r holl ddata ar gyfer plant sy’n byw yng Nghymru sy’n cael eu trin ar sail 12 mis i’w gweld yn y ciwb HLTH0557 StatsCymru yn y ddolen yma: https://statswales.gov.wales/Catalogue/Health-and-Social-Care/General-Dental-Services/Current-Contract/Welshresidentchildrentreatedina12monthperiod-by-localhealthboardhttps://gov.wales/nhs-dental-services
https://www.gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2021-09/nhs-dental-services-quality-report-557.pdf