Deintyddion sy’n siarad Cymraeg yn ôl bwrdd iechyd lleol, mesur a blwyddyn
Mae ffigyrau'n dangos nifer a chyfran deintyddion sy’n siarad Cymraeg sy'n ymarfer yng Nghymru.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Deintyddion sy’n siarad Cymraeg yn ôl bwrdd iechyd lleol, mesur a blwyddynDiweddariad diwethaf
17 Hydref 2023Diweddariad nesaf
Medi 2024 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y deintyddion Cymraeg eu hiaith a chyfran deintyddion Cymraeg eu hiaith i bob siaradwyr Cymraeg a'r boblogaeth gyffredinol.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data'n dod o’r Rhestr Perfformwyr Deintyddol gan ei fod yn cael ei ystyried yn wybodaeth reoli. Er bod y rhestr yn cael ei chynnal a’i chadw, nid cynhyrchu ystadegau yw ei phrif ddiben, ac efallai na fydd peth o’r wybodaeth yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Y bwriad yw dod o hyd i ddata newydd ar ddeintyddion sy'n siarad Cymraeg drwy System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru pan fydd wedi cael ei rhoi ar waith yn llawn mewn deintyddfeydd yng Nghymru.Mae data cyfrifiad 2021 yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y deintyddion Cymraeg fesul 10,000 o bobl sy’n siarad Cymraeg a fesurir o 2021-22 ymlaen.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2018-19 ymlaen.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Data 2021-22 wedi’u diwygio gan ddefnyddio data cyfrifiad 2021 ac amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2021.Ansawdd ystadegol
Dewch o hyd i'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol ac adroddiad ansawdd cysylltiedig, fel y dangosir yn y ddolen a ddarparwyd.Ystadegau a gyflwynwyd yma yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan nad oes disgwyl i amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 gael eu cyhoeddi tan fis Tachwedd 2022. Gan fod yr ystadegau'n seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth o gyfnod amser gwahanol, dylid eu trin yn ofalus a’u hystyried yn rhai dros dro.
Wrth i ddata o Gyfrifiad 2021 ddod ar gael, bydd yr ONS hefyd yn ail-seilio’r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2012 a chanol 2020 yng ngwanwyn 2023. Mae hyn yn golygu y bydd ystadegau ar gyfer canran y boblogaeth a dderbyniodd wasanaethau deintyddol y GIG yn y blynyddoedd hyn yn cael eu diwygio yn natganiad ystadegol deintyddol nesaf y GIG. Os bydd y diwygiadau'n arwain at newidiadau mawr i'r data, bydd sylwadau manylach ar y rhain yn y datganiad.