Hysbysiad Dod i Ben - Mae'r datganiad hwn wedi dod i ben. Yn ystod y 12 mis diwethaf, bu nifer o ddarparwyr Byrddau Iechyd Lleol wrthi'n ailgynllunio gwasanaethau gan arwain at newid sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu hasesu a'u gweld mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Mae pedwar o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol bellach yn gweithredu system Un Pwynt Mynediad. Dyma system lle mae plant a phobl ifanc sy'n aros am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (sCAMHS) arbenigol yn cael asesiad cychwynnol yng Ngwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol y Bwrdd. Felly, mae'r amseroedd aros am asesiad y Byrddau hyn bellach yn cael eu hadrodd o dan Ran 1 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 | LLYW.CYMRU, yn lle adrodd am amseroedd aros am apwyntiad cyntaf sCAMHS.
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Amseroedd Aros am Apwyntiad Cyntaf Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (sCAMHS)Diweddariad diwethaf
10 Ebrill 2024Diweddariad nesaf
BenSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol (sCAMHS) Penodiad Cyntaf Amseroedd Aros Casglu Data, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
hss.performance@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Datganiad data misol sy’n dangos amseroedd aros am apwyntiad cyntaf ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (sCAMHS)Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.Amlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
O fis Awst 2019 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.Ansawdd ystadegol
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.Dolenni'r we
Gellir gweld yr adroddiad ansawdd ar gael ar y ddolen i'r we ganlynol:https://llyw.cymru/amseroedd-aros-am-apwyntiad-cyntaf-gwasanaethau-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed-arbenigol-scamhs-adroddiad-ansawdd