Data gwelyau misol y GIG yn ôl mesur, safle ac arbenigedd, Mawrth 2014 ymlaen
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Gwelyau'r GIG yn ôl mesur, arbenigedd, sefydliad a mis, Mawrth 2014 ymlaenDiweddariad diwethaf
28/08/2024Diweddariad nesaf
Medi 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ffurflen QueSt1, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
DimCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data hyn yn cwmpasu cyfnod o amser yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar wasanaethau'r GIG.Yn ystod y pandemig, ad-drefnwyd gwasanaethau ysbytai yng Nghymru o ganlyniad i fesurau atal a rheoli heintiau gwell, a'r angen i drin cleifion COVID a chleifion nad ydynt yn gleifion COVID ar wahân. O ganlyniad, bu gostyngiad sylweddol yn nifer y llawdriniaethau wedi’u cynllunio, ac arweiniodd hyn at ostyngiad mewn gofal mewn argyfwng llai brys. O ganlyniad, roedd cyfraddau gwelyau llawn mewn ysbytai yn is yn 2020-21 nag yn y blynyddoedd blaenorol. Felly, dylid bod yn ofalus wrth gymharu cyfraddau gwelyau llawn rhwng 2020-21 a’r blynyddoedd blaenorol.
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno gwybodaeth gryno, o'r ffurflen QueSt1, a ddarperir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), am y defnydd o welyau yng Nghymru.
Cyfartaledd blynyddol yw'r data a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn ac maent yn dangos y newid blynyddol yng nghyfraddau’r gwelyau llawn a’r gwelyau sydd ar gael. Felly, ni fydd y data hyn yn adlewyrchu’r newid mewn lefelau gweithgarwch yn ystod y flwyddyn.
Nid yw'r data'n cynnwys data ar hyd cyfartalog yr arhosiad, yr amser rhwng trosiant a'r ffactor defnyddio gwelyau. Mae'r dangosyddion hyn yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data ar farwolaethau a ffigurau rhyddhau nad ydynt yn cael eu casglu trwy ffurflen QS1 mwyach, ac sy'n deillio o Gronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) ar gyfer 2012-13 ymlaen. Wrth gynnal dadansoddiad mwy manwl o'r data marwolaethau a rhyddhau o PEDW wrth baratoi ar gyfer cyhoeddiad 2012-13, cododd materion ansawdd data mewn perthynas â gweithgaredd unedau asesu (AU) sy'n adrodd yn QS1 a PEDW a sut y dylai hyn gael ei drin yn y data. Nodwyd bod anghysondeb yn nulliau adrodd unedau asesu, gyda rhai BILlau yn adrodd gweithgaredd AU yn eu data ar welyau, ac eraill yn eu hepgor. Mae'n debygol y gallai'r anghysondeb hwn mewn perthynas ag adrodd gweithgaredd AU effeithio ar data hanesyddol hefyd.
Gallwch weld gwybodaeth am newidiadau i'r data a gyhoeddir ar welyau'r GIG trwy ddilyn y ddolen we.
Casgliad data a dull cyfrifo

Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Darperir data o fis Mawrth 2014 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen weTalgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae canrannau wedi'u talgrynnu i un lle degolGwybodaeth am ddiwygiadau
Mae unrhyw ddiwygiadau yn cael eu marcio yn y data gyda (r)Ansawdd ystadegol
Yn ystod y pandemig, ad-drefnwyd gwasanaethau ysbytai yng Nghymru o ganlyniad i fesurau atal a rheoli heintiau gwell, a'r angen i drin cleifion COVID a chleifion nad ydynt yn gleifion COVID ar wahân. O ganlyniad, bu gostyngiad sylweddol yn nifer y llawdriniaethau wedi’u cynllunio, ac arweiniodd hyn at ostyngiad mewn gofal mewn argyfwng llai brys. O ganlyniad, roedd cyfraddau gwelyau llawn mewn ysbytai yn is yn 2020-21 nag yn y blynyddoedd blaenorol. Felly, dylid bod yn ofalus wrth gymharu cyfraddau gwelyau llawn rhwng 2020-21 a’r blynyddoedd blaenorol.SITREP COVID-19 dyddiol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw'r brif ffynhonnell ddata ar gyfer ffigurau derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer COVID-19, ac mae data yn cael eu cyhoeddi'n ddyddiol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn yn seiliedig ar ffynhonnell wahanol, diffiniadau gwahanol a mathau gwahanol o ysbytai. Felly, ni ddylid cymharu’r ddau gasgliad hwn.
Ad-ddynodi ar gyfer 2016-17: Nodwyd bod Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru wedi symud oddi wrth ei safle ym Mae Colwyn i Ysbyty Abergele yn 2009. Cyn 2009-10, cofnodwyd y gwelyau hyn o dan Wasanaeth Glasoed Gogledd Cymru. Ers 2009-10, maent wedi'u cofnodi o dan gyfanswm Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, nid o dan safle ysbyty. Yn ystod 2016-17, cytunwyd y dylid cofnodi’r data hwn o dan Abergele, ac adlewyrchir y newid hwn yn y cyhoeddiad.
Cyflwynodd Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Prifysgol Llandochau data o dan arbenigedd niwroleg yn 2016-17. Adroddir y data hwn o dan niwroleg arall, oherwydd bod hyn yn gyson â sut y cyflwynir data gan ysbytai eraill.
Ad-ddynodi yn 2017-18: O fis Ebrill 2016, cyflwynwyd codau newydd ar gyfer disgrifio arbenigeddau i ychwanegu mwy o fanylion at gasgliadau data. Hyd nes y bydd pob Bwrdd Iechyd yn gallu adrodd data yn gyson gan ddefnyddio'r codau mwy manwl, rydym wedi ad-ddynodi arbenigeddau fel eu disgrifiad blaenorol er mwyn osgoi adrodd anghyson. Yn benodol, mae data 'Llawdriniaeth Bron' wedi'i ad-ddynodi fel 'Llawfeddygaeth Gyffredinol', sef sut y mae wedi'i gofnodi yn hanesyddol. Rydym yn ad-ddynodi ‘Meddygaeth Strôc’ fel 'Meddygaeth Gyffredinol' a 'Radioleg Ymyriadol' fel 'Radioleg'.
Gweler fwy o wybodaeth ynglyn ag ansawdd y data yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.