Presenoldeb cleifion allanol yn ôl sefydliad a safle
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Cafodd Set Ddata Isafswm Gweithgarwch Cleifion Allanol ei chyflwyno yng Nghymru ym mis Ebrill 1999. Mae'r set ddata'n cofnodi gwybodaeth ar lefel y claf am weithgarwch cleifion allanol yn y GIG yng Nghymru. Cafodd y set ddata ei chynllunio'n wreiddiol i gofnodi gweithgarwch dan ofal meddyg ymgynghorol, ond mae wedi'u hehangu i gynnwys gweithgarwch dan ofal nyrs annibynnol. Caiff gwybodaeth ei chasglu'n fisol a'i chadw gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.O 2012-13 ymlaen, Set Ddata Isafswm Gweithgarwch Cleifion Allanol yw ffynhonnell ystadegau swyddogol ar gyfer gweithgarwch cleifion allanol yn y GIG yng Nghymru, yn hytrach na'r casgliad data blaenorol yn QS1. Er mai QS1 oedd ffynhonnell swyddogol yr ystadegau ar gyfer 2011-12, rydym hefyd wedi cyhoeddi data ar gyfer 2011-12 o'r Set Data Isafswm Gweithgarwch Cleifion Allanol er mwyn cymharu'r hen ffynhonnell ddata â'r ffynhonnell ddata bresennol.
Seilir y ffigurau ar weithgarwch a gynhaliwyd mewn ysbytai yng Nghymru. O ganlyniad i hyn, maent yn cynnwys gweithgarwch a ddarparwyd gan sefydliadau Lloegr yn ysbytai Cymru ac nid ydynt yn cynnwys gweithgarwch a gynhaliwyd yn Lloegr.
Mae'r gostyngiad yng nghleifion allanol na ddaethant yng Nghaerdydd a’r Fro rhwng 2014-15 a 2015-16 yn bennaf oherwydd o gyflwyniad o system archebu gwbl awtomatig (‘Fully Automated Booking system’). Mae'r gostyngiad yng ngweithgaredd yng Nghwm Taf rhwng 2014-15 a 2015-16 yn bennaf oherwydd newid yn y data a gyflwynant i ddod â nhw yn unol â safonau adrodd cenedlaethol. Esbonnir y rhain yn fanylach yn adran 3 o’r erthygl ystadegol 'Set Data Isafswm Cleifion Allanol: diweddariad ar ansawdd y data a chrynodeb o'r canlyniadau ar gyfer 2015-16'.
O Ebrill 2016, roedd newid yn y codau swyddogaeth triniaeth a gyflwynwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol, gweler y datganiad am fwy o wybodaeth.
Mae’r cynnydd yng Nghwm Taf yn 2016-17 yn bennaf oherwydd yr oedd rhai safleoedd ysbyty yn cyflwyno data am y tro cyntaf, a eglurir yn fanylach yn y datganiad ystadegol.
Gweler yr erthygl ystadegol “Set Ddata Isafswm Gweithgarwch Cleifion Allanol: cyhoeddi data a thrafod ansawdd data” oedd wedi’i chyhoeddi ar 16 Chwefror 2016 i weld gwybodaeth am Set Ddata Isafswm Gweithgarwch Cleifion Allanol, gan gynnwys gwahaniaethau rhwng y ffynhonnell ddata hon a'r casgliad data yn QS1, a hefyd gwybodaeth am ansawdd y data. Gweler hefyd 'Set Data Isafswm Cleifion Allanol: diweddariad ar ansawdd y data a chrynodeb o'r canlyniadau ar gyfer 2015-16' oedd wedi’i chyhoeddi ar 04 Hydref 2016.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau gyflwyno Set Ddata Isafswm Gweithgarwch Cleifion Allanol i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn fisol erbyn ugeinfed diwrnod y mis sy'n dilyn. Caiff y data eu lanlwytho wedyn i'r gronfa ddata genedlaethol.Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn darparu data ar gyfer pob blwyddyn ariannol i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr Erthyglau Ystadegol, drwy'r ddolenni we berthnasol.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae data yn cael ei ddangos o 2011-12 ymlaen.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Ewch i weld yr wybodaeth hon yn yr Erthyglau a Datganiadau Ystadegol, drwy'r dolenni we berthnasol.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae canrannau a chymarebau wedi'u talgrynnu i 1 pwynt degolGwybodaeth am ddiwygiadau
Diwygiwyd y data hwn ar 13/12/18 i gyweirio achosion o ddyblygu yn y cyfansymiau bwrdd iechyd. Nid oedd ffigurau Cymru nag ysbytai wedi eu heffeithio.Ein nod yw diwygio data'r flwyddyn flaenorol wrth inni ryddhau data newydd bob blwyddyn. Byddwn yn derbyn cyngor gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ynglyn â diwygio data'r blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, os oes gwahaniaethau mawr yn y data mewn cyflwyniadau dilynol gan fyrddau iechyd lleol/ymddiriedolaethau'r GIG, caiff y data eu diwygio. Tynnir sylw at ddata wedi'u diwygio yn nhabl StatsCymru.