Gweithgaredd cleifion allanol
Y ffynhonnell newydd ar gyfer ystadegau swyddogol am weithgaredd cleifion allanol yng Nghymru o 2012-13 ymlaen yw’r Set Data Isafswm Cleifion Allanol (Outpatient Activity Minimum Dataset OP MDS). Mae blwyddyn gorymylol (2011-12) wedi cael ei gyhoeddi er mwyn darparu cymhariaeth â’r hen ffynhonnell o ystadegau swyddogol, sef y dychweliad QueSt1 (QS1). Darllenwch yr Erthygl Ystadegol ‘Set Data Isafswm Cleifion Allanol: cyhoeddiad o ddata a thrafodaeth am ansawdd data’ am fwy o wybodaeth am sut i gymharu rhwng y ddau ffynhonnell.
Mae gwybodaeth wedi ei gynnwys yn ôl sefydliad GIG, safle ysbyty a swyddogaeth triniaeth (treatment function). Hefyd mae mesurau fel presenoldebau newydd, cyfanswm y presenoldebau ac apwyntiadau cleifion allanol ni wnaeth fynychu wedi eu cynnwys.