Derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru, yn ôl bwrdd iechyd a dyddiad
Wedi ei archifo – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi cael ei chyhoeddi'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae ffigurau'n dangos nifer yr derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ôl bwrdd iechyd lleol a dyddiad. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.Casgliad data a dull cyfrifo
O 17 Mehefin 2021, rydym wedi dileu’r adran hon o’r datganiad ystadegol ac ni fyddwn yn diweddaru’r data yma ar StatsCymru mwyach.Ar ddechrau'r pandemig, cafodd ystadegau swyddogol ar dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys eu rhewi, a chyflwynwyd data wythnosol a dynnwyd o wybodaeth reoli. Er hynny, mae ystadegau swyddogol am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu cyhoeddi unwaith eto bob mis fel rhan o'r datganiad ystadegol Gweithgarwch a Pherfformiad y GIG. Hefyd, yn y misoedd diwethaf dengys y data fod derbyniadau ar lefelau tebyg erbyn hyn i gyfartaledd 2015-19.
Datganiad dyddiol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ar lefel ysbytai ac ar lefel bwrdd iechyd lleol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil EXCEL a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Gan fod y datganiad yn tarddu o wybodaeth reoli, nid yw data lefel ysbyty yn addas i'w cyhoeddi. Gweler Weblinks i gael yr ystadegau swyddogol ar dderbyniadau yr adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Amlder cyhoeddi
Dim hwy diweddaruCyfnodau data dan sylw
O fis 1 Chwefror 2020 I 5 Mehefin 2021Gwybodaeth am ddiwygiadau
Gall data hanesyddol gael eu diwygio, ac felly gallant fod yn wahanol i'r wybodaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol. Caiff y data eu dilysu yng nghanol bob mis ar gyfer y mis blaenorol, felly mae'n debygol y bydd y ffigurau'n wahanol ar ôl y broses ddilysu.Teitl
Derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru, yn ôl bwrdd iechyd a dyddiadDiweddariad diwethaf
10 Mehefin 2021Diweddariad nesaf
Wedi ei archifo – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyachSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
https://llyw.cymru/gweithgarwch-chapasitir-gig-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws-covid-19https://llyw.cymru/crynodeb-perfformiad-gweithgaredd-y-gig