Neidio i'r cynnwys
Wrth i'r galw gynyddu ar gyfer ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID19, mae rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddiadau ac ystadegau blaenoriaeth. https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Rheoli Gwybodaeth Cyfnodau yn ysbytai'r GIG yn ôl bwrdd iechyd lleol, math o ysbyty a dyddiad

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am dderbyniadau (posibl ac sydd wedi u cadarnhau) i ysbytai wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae ffigurau'n dangos nifer y derbyniadau a phobl mewn ysbytai yn ôl y math o ysbyty, bwrdd iechyd lleol a dyddiad. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

None
[Lleihau]Welsh[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Welsh 1[Hidlo]
-
Welsh 2[Hidlo]
[Lleihau]Bwrdd Iechyd LleolTranslation required.[Hidlwyd]
-
Bwrdd Iechyd Lleol 1[Hidlo]
Cod Ardal[Hidlo]
Measure1
[Lleihau]Math o ysbytyTranslation required.[Hidlo]
-
Math o ysbyty 1
Dyddiad[Hidlwyd]
[Lleihau]Pop ysbyty GIGMae ffigurau cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaenCliciwch yma i ddidoliPop ysbyty GIGMae ffigurau cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen
Cliciwch yma i ddidoliPob ysbyty acíwt Cyn 10 Gorffennaf 2020, gall y data gynnwys niferoedd bach o welyau ysbyty iechyd meddwl.Cliciwch yma i ddidoliYsbytai cymunedol Ffigurau cynnwys data  o ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen.Cliciwch yma i ddidoliYsbytai maes Ffigurau cynnwys data o ysbytai maes 20 Ebrill 2020 ymlaen.Cliciwch yma i ddidoliUnedau iechyd meddwlFfigurau cynnwys data o unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen. Caiff data unedau iechyd meddwl eu cyflwyno bob dydd Gwener, a defnyddir y sefyllfa ar y dydd Gwener fel procsi ar gyfer yr wythnos ganlynol, oni bai bod newid mawr mewn amgylchiadau.
14-Rhag 20205,4901,196951,1207,901
15-Rhag 20205,5301,177911,1207,918
16-Rhag 20205,5711,177841,1207,952
17-Rhag 20205,5381,186841,1207,928
18-Rhag 20205,4421,183911,1207,836
19-Rhag 20205,3461,187911,1207,744
20-Rhag 20205,3601,187921,1207,759
21-Rhag 20205,4111,197911,0837,782
22-Rhag 20205,3701,163881,0837,704
23-Rhag 20205,2691,153801,0837,585
24-Rhag 20205,0961,144841,0837,407
25-Rhag 20204,6701,150881,0836,991
26-Rhag 20204,7331,144871,0837,047
27-Rhag 20204,8711,145871,0837,186
28-Rhag 20205,0351,142931,0657,335
29-Rhag 20205,2541,1521021,0727,580
30-Rhag 20205,2951,1641111,0727,642
31-Rhag 20205,3021,1871181,0727,679
01-Ion 20215,1741,2221331,0727,601
02-Ion 20215,2391,2271371,0727,675
03-Ion 20215,3321,2301511,0727,785
04-Ion 20215,4661,2151591,0687,908
05-Ion 20215,5481,2161641,0687,996
06-Ion 20215,4841,2141701,0687,936
07-Ion 20215,5781,2291731,0768,056
08-Ion 20215,5101,2411721,0767,999
09-Ion 20215,4851,2291831,0767,973
10-Ion 20215,4601,2331801,0767,949
11-Ion 20215,5621,2291791,0718,041
12-Ion 20215,5521,2201861,0718,029
13-Ion 20215,6011,2561931,0718,121
14- Ion 20215,5321,2571951,0718,055

Metadata

Teitl

Derbyniadau i ysbytai'r GIG yn ôl bwrdd iechyd lleol, math o ysbyty a dyddiad

Diweddariad diwethaf

15 Ionawr 2021 15 Ionawr 2021

Diweddariad nesaf

18 Ionawr 2021

Ffynhonnell 1

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS)

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Gwybodaeth reolaethol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am dderbyniadau i ysbytai wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae ffigurau'n dangos nifer y derbyniadau a phobl mewn ysbytai yn ôl y math o ysbyty, bwrdd iechyd lleol a dyddiad. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.

Casgliad data a dull cyfrifo

Datganiad dyddiol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ar lefel ysbytai ac ar lefel bwrdd iechyd lleol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil TEXT a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Gan fod y datganiad yn tarddu o wybodaeth reoli, nid yw data lefel ysbyty yn addas i'w cyhoeddi.

Amlder cyhoeddi

Dyddiol

Cyfnodau data dan sylw

Ebrill 2020 ymlaen. Yn dilyn rhagor o waith dilysu, penderfynwyd nad oedd data ar gyfer y cyfnod cyn Ebrill 2020 yn addas i'w cyhoeddi. Gan fod y casgliad data wedi'i sefydlu mewn ymateb i bandemig COVID-19, nid oedd modd i bob bwrdd iechyd ddarparu'r holl wybodaeth yn yr wythnos gyntaf o gasglu data.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Gall data hanesyddol gael eu diwygio ar unrhyw adeg, gan bod modd i ysbytai ailgyflwyno datganiad, ac felly gall fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd o'r blaen.

Ansawdd ystadegol

Mae ffigurau'n cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020, unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf, ac yn eithrio data o ysbytai preifat. Caiff data unedau iechyd meddwl eu cyflwyno bob dydd Gwener, a defnyddir y sefyllfa ar y dydd Gwener fel procsi ar gyfer yr wythnos ganlynol, oni bai bod newid mawr mewn amgylchiadau.

Dim ond o 23 Ebrill ymlaen y mae data ar gael ar gyfer Powys, pan cafodd ysbytai cymunedol eu cynnwys, gan nad oes ysbytai acíwt ym Mhowys. Cyn 10 Gorffennaf 2020, casglodd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf Morgannwg rai ffigurau ar welyau unedau iechyd meddwl yn eu ffigurau ar ysbytai acíwt. O fis Mehefin 2020 ymlaen, mae ysbytai wedi dechrau cau rhai o'r capasiti ymchwydd ychwanegol a roddwyd ar waith yn flaenorol ar gyfer pandemig COVID-19.

Mae derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 wedi'i gadarnhau, achosion o COVID-19 a amheuir, a chleifion sy'n gwella o COVID-19. Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Dechreuodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai a 22 Mai. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai.

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19. Ar 13 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig. Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd. O 29 Mehefin, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty. O 29 Mehefin ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd. O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol a gwelyau acíwt arbenigol wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. O 13 Tachwedd ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio sy’n cael eu cynnwys fel gwelyau sydd ar gael. Cyn hynny roedd pob gwely gofal critigol wedi cael ei gynnwys, p’un a ellid staffio’r gwely hwnnw ai peidio. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr ymlaen.

Dolenni'r we

https://llyw.cymru/gweithgarwch-chapasitir-gig-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws-covid-19

The others the welsh version likely available for blog, would need to reuse Eng one for UK dashboard most likely

Allweddeiriau

COVID-19, Coronafeirws, GIG, cleifion, gwelyau, ysbyty