Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Rheoli Gwybodaeth Cyfnodau yn ysbytai'r GIG yn ôl bwrdd iechyd lleol a math o glaf

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), casglwyd gwybodaeth ddyddiol ar welyau'r GIG yn benodol i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgarwch a gallu'r GIG. Mae'r ffigyrau'n dangos nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol a gwelyau cyffredinol ac acíwt drwy ddefnydd, y math o ysbyty, y bwrdd iechyd lleol a dyddiad. O 10 Chwefror 2023 newidiodd amlder adrodd data o bob dydd i wythnosol. Wedi hynny, mae data yn gipolwg ar ddydd Mercher ym mhob wythnos. Mae'r data'n cael eu cymryd o wybodaeth reoli ac yn amodol ar newid. Nid ydynt wedi bod yn ddarostyngedig i'r un prosesau dilysu a wnaed ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.

None
[Lleihau]Math o ysbytyTranslation required.[Hidlwyd]
-
Math o ysbyty 1[Hidlo]
Cod Ardal[Hidlo]
Dyddiad[Hidlwyd]
Measure1
[Lleihau]Bwrdd Iechyd LleolTranslation required.[Hidlo]
-
Bwrdd Iechyd Lleol 1
[Lleihau]Welsh[Hidlwyd]
-
-
[Lleihau]Welsh 1
-
-
Welsh 2
[Lleihau]CymruCliciwch yma i ddidoliCymru
Cliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Addysgu PowysDim ond o 23 Ebrill y mae data ar gyfer y bwrdd Iechyd ar gael pan gafodd ysbytai cymunedol eu cynnwys gan nad oes ganddo ysbytai acíwt.Cliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel DdaCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Bae AbertaweCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf MorgannwgCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin BevanBwrdd iechyd adrodd  am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi i gadarnhau cyn hynnyCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r FroBwrdd iechyd yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai a 22 Mai. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd ar Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedii gadarnhau, tan ir categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai.Cliciwch yma i ddidoliYmddiriedolaeth GIG FelindreTranslation1
[Lleihau]Pob cyfnod mewn ysbyty 3,8893232,0092,4722,9302,8963,1483417,701
Pob cyfnod mewn ysbyty [Ehangu]Cyfnodau mewn ysbyty am COVID-19 95113621357960409
[Ehangu]Cyfnodau mewn ysbyty heblaw COVID-19 3,7943221,9962,4102,7952,8893,0523417,292

Metadata

Teitl

Derbyniadau i ysbytai'r GIG yn ôl bwrdd iechyd lleol, math o ysbyty a dyddiad

Diweddariad diwethaf

13 Gorffennaf 2023 13 Gorffennaf 2023

Diweddariad nesaf

Dim hwy diweddaru

Ffynhonnell 1

Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Gwybodaeth reolaethol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am dderbyniadau i ysbytai wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae ffigurau'n dangos nifer y derbyniadau a phobl mewn ysbytai yn ôl y math o ysbyty, bwrdd iechyd lleol a dyddiad. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.

Yn unol ag egwyddorion y pontio o bandemig i endemig, daeth y gwaith casglu rheolaidd ar gyfer yr adroddiad sefyllfa wythnosol (SITREP) a oedd yn cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy'n darparu'r data yn y gyfres hon, i ben ar 12 Gorffennaf 2023. Felly, y data a gyhoeddir ar 13 Gorffennaf 2023 fydd y diweddariad terfynol i'r data hyn. Mae data cysylltiedig, er nad oes modd eu cymharu'n uniongyrchol, ar gael ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Casgliad data a dull cyfrifo

Adroddiad sefyllfaol (SITREP) dyddiol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ar lefel ysbytai ac ar lefel bwrdd iechyd lleol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil TEXT a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Gan fod y ffurflen yn cael ei ffynhonnellu o wybodaeth reoli, nid yw data lefel yr ysbyty yn priodol i'w cyhoeddi.

O’r wythnos sy’n dechrau 10 Mai, bydd diweddariad dydd Llun yn cynnwys data dydd Gwener yn unig, a diweddariad dydd Mawrth yn cynnwys data dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun.

Mae derbyniadau'n cyfeirio at nifer y cleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty o fewn cyfnod o 24 awr rhwng hanner nos a hanner nos bob dydd, er enghraifft o 00:00 i 23:59 ddydd Llun gydag adroddiad ddydd Mawrth. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Diffinnir derbyniad sy'n gysylltiedig â COVID-19 fel derbyniad brys i unrhyw arbenigedd meddygol ac mae naill ai:
• o fewn 14 diwrnod i gymryd sampl COVID-19 positif; neu
• lle cymerir sampl COVID-19 ar ddiwrnod cyntaf y derbyniad, p'un a yw'r canlyniad yn bositif neu’n negatif

Bwriad y meini prawf ar gyfer derbyniadau meddygol brys yw rhoi brasamcan o nifer y cleifion lle bo amheuaeth o COVID-19.

Ni ddylai cleifion a drosglwyddir rhwng ysbytai o fewn yr un sefydliad gael eu cyfrif yn nifer y derbyniadau.

Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty am resymau’n gysylltiedig â COVID-19 yn golygu nifer y gwelyau wedi’u staffio a ddefnyddir gan glaf sy'n bodloni'r diffiniad o glaf sydd lle bo ‘Cadarnhad’ neu ‘Amheuaeth’ neu sy’n ‘Gwella’ fel y nodir isod.

Ni fydd claf yn cael ei ddiffinio fel claf y cadarnhawyd bod ganddo COVID-19 hyd nes y bydd wedi cael prawf positif; a bydd yn parhau i gael ei ddiffinio felly hyd nes y bodlonir y meini prawf israddio. (Gweler yr adran ar wella o COVID-19 isod).

Diffinnir claf fel un yr amheuir bod ganddo COVID-19 os yw'n aros am ganlyniad prawf ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty o dan arbenigedd meddygol neu os yw'n dod yn symptomatig ar ôl cael ei dderbyn am unrhyw reswm arall. Mae hyn hefyd yn cynnwys cleifion sy’n cael prawf negatif ond sy’n parhau i arddangos symptomau COVID-19, cleifion sy’n cael canlyniad positif lefel isel cyn cael ail brawf, a chleifion COVID-19 sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty ond sy’n cael eu haildderbyn i’r ysbyty gyda symptomau COVID-19 cyn cael ail brawf.

Diffinnir claf fel un sy’n gwella o COVID-19 os yw naill ai'n cael canlyniad prawf negatif fel cadarnhad ei fod bellach yn glaf sy’n gwella o COVID-19, neu os yw'n bodloni'r meini prawf canlynol:

• wedi cwblhau 10 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif; ac
• wedi dangos gwelliant clinigol yn ei gyflwr, gydag o leiaf rywfaint o adferiad anadlol; a
• dim twymyn (> 37.8°C) am 48 awr; a
• dim imiwnoataliaeth gwaelodol difrifol

Mae claf nad yw’n gysylltiedig â COVID-19 yn glaf nad yw'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf a ddisgrifir uchod ar gyfer cadarnhad, amheuaeth neu wella. Os yw claf wedi cael haint COVID-19 yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty ac wedyn yn bodloni'r meini prawf israddio a nodir uchod, dylid ei gofnodi fel claf nad oes ganddo COVID-19.

Amlder cyhoeddi

Dim hwy diweddaru

Cyfnodau data dan sylw

1 Ebrill 2020 ymlaen. Yn dilyn rhagor o waith dilysu, penderfynwyd nad oedd data ar gyfer y cyfnod cyn Ebrill 2020 yn addas i'w cyhoeddi. Gan fod y casgliad data wedi'i sefydlu mewn ymateb i bandemig COVID-19, nid oedd modd i bob bwrdd iechyd ddarparu'r holl wybodaeth yn yr wythnos gyntaf o gasglu data.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Gall data hanesyddol gael eu diwygio ar unrhyw adeg, gan bod modd i ysbytai ailgyflwyno datganiad, ac felly gall fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd o'r blaen.

Allweddeiriau

COVID-19, Coronafeirws, GIG, cleifion, gwelyau, ysbyty

Ansawdd ystadegol

Ar 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig.

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Dim ond o 23 Ebrill ymlaen y mae data ar gael ar gyfer Powys, pan cafodd ysbytai cymunedol eu cynnwys, gan nad oes ysbytai acíwt ym Mhowys.

Mae derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 wedi'i gadarnhau, achosion o COVID-19 a amheuir, a chleifion sy'n gwella o COVID-19. Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Dechreuodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin 2020 ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai 2020 a 22 Mai 2020. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai 2020.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynnydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd.

O 29 Mehefin 2020, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty.

O 29 Mehefin 2020 ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

Ers 3 Gorffennaf 2020, diweddarwyd y canllawiau i gynnwys derbyniadau brys yn unig yn y ffigurau derbyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf 2020 am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Roedd cynnwys gwelyau iechyd meddwl wedi cael effaith fach ar ffigurau a oedd yn dangos nifer y gwelyau llawn gyda chleifion COVID-19, ond effaith fawr ar yr holl welyau llawn gyda chleifion heb COVID-19 a gwelyau gwag, gan nad yw’r rhan fwyaf o welyau iechyd meddwl yn cynnwys cleifion COVID-19. Caiff data unedau iechyd meddwl eu cyflwyno bob dydd Gwener, a chaiff y sefyllfa ar y dydd Gwener ei defnyddio fel procsi ar gyfer yr wythnos ganlynol, oni bai bod yr amgylchiadau’n newid yn ddirfawr.

Cyn 10 Gorffennaf 2020, casglodd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf Morgannwg rai ffigurau ar welyau unedau iechyd meddwl yn eu ffigurau ar ysbytai acíwt.

O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol (fel y rhai Llosgi a Phlastig yn Nhreforys) a gwelyau acíwt arbenigol eraill (fel rhai mamolaeth) dros safleoedd acíwt eraill wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio a gafodd eu cynnwys fel gwelyau oedd ar gael. Mae gwelyau wedi’u staffio yn golygu’r rheini y gellir eu staffio adeg y cyfrifiad. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

O 16 Tachwedd 2020, cynhwysir data o ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o oddeutu 450 yng nghyfanswm nifer y gwelyau sydd ar gael.

O 18 Ionawr 2021, ni chyfrifir unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n ‘gwella’ gan fod angen lefel uchel o ofal arnynt o hyd. Caiff unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn ‘gwella’ ei gyfrif nawr o dan ‘wedi'u cadarnhau’. Arweiniodd y newid hwn at gynnydd yn nifer y cleifion COVID-19 ‘wedi’u cadarnhau’ a oedd yn defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt gweithredu) ac nid oedd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion sy’n ‘gwella’. Ni chafodd y newid hwn unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi dal COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn fod wedi effeithio ar nifer fach o gleifion oedd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gallai fod wedi arwain at ostyngiad yn nifer y cleifion sy'n gwella a chynnydd yn nifer y cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19.

O 8 Mawrth 2021, sicrhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod eu data yn fwy cydnaws â’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar y sefyllfa (SITREP). Cafodd y newid hwn effaith fach ar y ffigurau ar gyfnodau yn yr ysbyty, a arweiniodd at gynnydd bach yn nifer y cleifion gyda COVID-19 a gadarnhawyd a gostyngiad bach yn nifer y cleifion COVID-19 sy’n gwella.

Er mwyn sicrhau bod nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19 yn cael eu cofnodi'n gywir ac yn gyson yn y data ar gyfnodau yn yr ysbyty, atgoffwyd pob bwrdd iechyd i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar SITREP, a gofynnwyd iddynt sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i'w hadroddiadau dyddiol wedi cael eu gweithredu erbyn 12 Ebrill 2021. Yn groes i'r canllawiau, roedd rhai byrddau iechyd yn cyfrif cleifion arhosiad hir a oedd wedi gwella'n llwyr o COVID-19 yng nghategori gwella o COVID-19, yn hytrach na'r categori cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19, a oedd wedi chwyddo nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19. Arweiniodd y newid hwn at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n gwella (gostyngiad o tua 123 o gleifion ar y pwynt gweithredu). Er bod yr effaith wedi’i gweld ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, gwelwyd yr effeithiau pennaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Sylwch nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gallu darparu data ar nifer y cleifion a dderbyniwyd i Ysbyty Glan Clwyd ar 13, 22, 23, 26, 27, 28 Gorffennaf 2021 a 3, 11 Awst 2021 a 27, 28 Hydref 2021 oherwydd problem yn prosesu’r data.

O 18 Ionawr 2022, er mwyn sicrhau adroddiadau cywir a chyson am gleifion sy’n gwella o COVID-19, ailgyhoeddwyd canllawiau ar gyfer adrodd trwy’r SITREP dros y byrddau iechyd. Gofynnwyd i fyrddau iechyd sicrhau bod y maen prawf israddio yn cael ei newid o fod angen ar y claf 14 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif i fod angen 10 diwrnod.

Nodwyd a roedd rhai byrddau iechyd wedi dosbarthu rhai cleifion yn anghywir fel rhai a oedd yn gwella o COVID-19 yn hytrach na chleifion di-COVID-19. Cleifion â COVID-19 wedi’u cadarnhau oedden nhw a nad oeddent wedi cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 ac a oedd wedi cwblhau 10 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif. Arweiniodd hyn at gynnydd mwy yn nifer y cleifion y dosbarthwyd eu bod yn gwella nag y dylai fod wedi bod. O 16 Chwefror 2022, ailadroddwyd canllawiau i ddatrys hyn a arwainodd at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy’n gwella o COVID-19 a chynnydd cyfatebol mewn cleifion di-COVID-19.

O 24 Mawrth 2022 ymlaen, mae’r byrddau iechyd wedi bod yn gweithredu’r canllawiau profi COVID-19 wedi’u diweddaru ar draws yr ystâd ysbytai. Parheuir bod pob claf yn cael ei brofi wrth gael ei dderbyn. Fodd bynnag, mae newid i gleifion sy'n parhau i fod yn asymptomatig yn ystod eu harhosiad, lle nad oes gofyniad mwyach i brofi'r cleifion hynny. Bydd hyn yn golygu na fydd nifer o achosion damweiniol / nosocomial yn cael eu dal mwyach, a bydd hyn yn cael effaith ar y ffigurau a adroddwyd.

Rydym yn ymwybodol o fater sy'n effeithio ar y data a dderbyniwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer y cyfnod rhwng 16 Chwefror a 31 Mawrth. Credir bod y data'n tangyfrif gwir nifer y gwelyau mewn ysbytai a ddefnyddir gan gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19. Byddai hyn yn golygu y bydd y cyfansymiau a gyflwynir yma ar gyfer Cymru yn is na'r gwir ffigurau dros y cyfnod hwnnw. Mae cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweithio i ddatrys y mater ac ailgyflwyno data diwygiedig am y cyfnod llawn yr effeithir arno.

17 Mai 2022 - Mae problem gyda data Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer y cyfnod rhwng 16 Chwefror a 31 Mawrth wedi'i datrys. Roedd y data'n tangyfrif o wir nifer y gwelyau ysbytai a ddefnyddir gan gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19. Roedd hyn yn golygu bod y cyfansymiau a gyflwynwyd ar gyfer Cymru yn is na'r gwir ffigurau dros y cyfnod hwnnw.