

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am welyau'r GIG wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae ffigurau'n dangos nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol a gwelyau cyffredinol ac acíwt yn ôl defnydd, math o ysbyty, bwrdd iechyd lleol a dyddiad. Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Gwelyau'r GIG yn ôl defnydd, bwrdd iechyd lleol, math o ysbyty a dyddiadDiweddariad diwethaf
15 Ionawr 2021Diweddariad nesaf
18 Ionawr 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am welyau'r GIG wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae ffigurau'n dangos nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol a gwelyau cyffredinol ac acíwt yn ôl defnydd, math o ysbyty, bwrdd iechyd lleol a dyddiad. Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylid parhau i ystyried yr ystadegau swyddogol fel y ffynhonnell data awdurdodol.Casgliad data a dull cyfrifo
Datganiad dyddiol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ar lefel ysbytai ac ar lefel bwrdd iechyd lleol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil TEXT a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Gan fod y datganiad yn tarddu o wybodaeth reoli, nid yw data lefel ysbyty yn addas i'w cyhoeddi.Amlder cyhoeddi
DyddiolCyfnodau data dan sylw
Ebrill 2020 ymlaen. Yn dilyn rhagor o waith dilysu, penderfynwyd nad oedd data ar gyfer y cyfnod cyn Ebrill 2020 yn addas i'w cyhoeddi. Gal fod y casgliad data wedi'i sefydlu mewn ymateb i bandemig COVID-19, nid oedd modd i bob bwrdd iechyd ddarparu'r holl wybodaeth yn yr wythnos gyntaf o gasglu data.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Gall data hanesyddol gael eu diwygio ar unrhyw adeg, gan bod modd i ysbytai ailgyflwyno datganiad, ac felly gall fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd o'r blaen.Ansawdd ystadegol
Mae ffigurau'n cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020, unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf, ac yn eithrio data o ysbytai preifat. Caiff data unedau iechyd meddwl eu cyflwyno bob dydd Gwener, a defnyddir y sefyllfa ar y dydd Gwener fel procsi ar gyfer yr wythnos ganlynol, oni bai bod newid mawr mewn amgylchiadau.Dim ond o 23 Ebrill ymlaen y mae data ar gael ar gyfer Powys, pan cafodd ysbytai cymunedol eu cynnwys, gan nad oes ysbytai acíwt ym Mhowys. Cyn 10 Gorffennaf 2020, casglodd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf Morgannwg rai ffigurau ar welyau unedau iechyd meddwl yn eu ffigurau ar ysbytai acíwt. O fis Mehefin 2020 ymlaen, mae ysbytai wedi dechrau cau rhai o'r capasiti ymchwydd ychwanegol a roddwyd ar waith yn flaenorol ar gyfer pandemig COVID-19.
Mae derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 wedi'i gadarnhau, achosion o COVID-19 a amheuir, a chleifion sy'n gwella o COVID-19. Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Dechreuodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai a 22 Mai. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai.
Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19. Ar 13 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig. Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd.
O 29 Mehefin, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty. O 29 Mehefin ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd. O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol a gwelyau acíwt arbenigol wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. O 13 Tachwedd ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio sy’n cael eu cynnwys fel gwelyau sydd ar gael. Cyn hynny roedd pob gwely gofal critigol wedi cael ei gynnwys, p’un a ellid staffio’r gwely hwnnw ai peidio. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr ymlaen.