Absenoldeb staff y GIG a'r gyfradd hunanynysu, yn grŵp staff a dyddiad
Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am absenoldeb staff y GIG wedi cael eu cyhoeddi'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae ffigurau'n dangos y ganran wythnosol ar gyfartaledd o absenoldeb staff y GIG yn sgil salwch sy'n gysylltiedig â COVID-19, hunanynysu neu reswm arall yn ôl grŵp staff a dyddiad. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.
Metadata
Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth am absenoldeb staff y GIG wedi cael ei chyhoeddi er mwyn cefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti’r GIG. Mae’r ffigurau’n dangos y ganran o staff y GIG sy’n absennol oherwydd salwch yn ymwneud â COVID-19 neu am eu bod yn hunanynysu, yn ôl grwp staff a dyddiad. Hon yw’r gyfradd gyfartalog wythnosol hyd 10 Awst, a'r gyfradd ar gyfer dydd Llun o 17 Awst. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.
Ers 10 Awst, datganiad wythnosol gan pob sefydliad ar ddydd Llun. Cyn y dyddiad hwn, cafodd datganiadau dyddiol eu darparu a chafodd cyfartaleddau wythnosol o ddata dyddiol eu cofnodi, gyda rhai eithriadau a fanylir yn yr adran ansawdd ystadegau. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil EXCEL a'u trosglwyddo i gronfa ddata ACCESS.
Wythnosol
Mawrth 14 ymlaen, wythnosol a dyddiol
Caiff canrannau eu talgrynnu i un lle degol.
Gellid diwygio data hanesyddol os yw sefydliadau yn nodi problem, ond nid ydynt yn debygol o gael eu diwygio'n aml.
Mae ffigurau'n dangos data o holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru o 14 Mawrth, ac eithrio Bae Abertawe a fethodd i ddarparu data yn yr un modd â sefydliadau eraill tan 20 Mai. Ers 17 Awst, mae pob sefydliad yn cyflwyno data ar ddydd Mawrth, gan ddarparu data ar gyfer y diwrnod blaenorol (dydd Llun). Mae Caerdydd a'r Fro wedi cyflwyno data wythnosol ers 22 Mehefin. Cyn hynny, roedd Caerdydd a'r Fro yn cyflwyno data dyddiol, ond yn methu â chyflwyno data ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul, felly roedd y cyfartaleddau wythnosol yn seiliedig ar ddata ar gyfer dydd Llun i ddydd Gwener yn unig. Mae Felindre wedi bod yn cyflwyno data wythnosol ers 28 Gorffennaf, gyda sefydliadau eraill yn cyflwyno data yn ddyddiol. Arweiniodd newidiadau i'r ffordd y cafodd data eu casglu ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o 8 Mehefin at welliannau yng nghywirdeb data. O ganlyniad, gwelwyd gostyngiad yng nghyfanswm y staff yr adroddwyd eu bod yn absennol ac yn nifer y staff a oedd yn absennol oherwydd COVID-19. Cafodd y data ar gyfer ysbyty Felindre ar 30 Mehefin eu hailadrodd o'r wythnos 16 Mehefin. O 27 Gorffennaf, gwelwyd gostyngiad o fwy na 200 yn nifer y myfyrwyr (sy'n rhan o'r 'grwp staff eraill') ar draws byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf Bro Morgannwg wedi i'w hastudiaethau neu eu contractau tymor byr ddod i ben. Ar ôl i'r canllawiau ar warchod newid ar 16 Awst, gwelodd sefydliadau ostyngiad yn nifer y staff oedd yn hunanynysu er gyfer yr wythnos yn dechrau 11 Awst.
GIG, COVID-19, Coronafeirws, Absenoldeb staff